Dull Cyflwyno

Siopa cudd am ddillad

Mae siopa cudd neu fod yn gwsmer cudd yn fodd o gasglu gwybodaeth am brofiad y cwsmer, a hwnnw’n cael ei ddefnyddio mewn amrywiaeth o ddiwydiannau, nid twristiaeth yn unig.       

Y tro nesaf yr ewch i siopa am ddilledyn, beth am weld sawl un o’r cwestiynau yn y rhestr wirio isod y gallwch eu hateb.         

  • A gawsoch eich cydnabod gan gynorthwyydd o fewn 30 eiliad o fynd i mewn i’r siop?
  • Pan gawsoch eich cyfarch, beth a ddywedwyd?
  • A wenodd y cynorthwyydd?
  • A gynigiodd y cynorthwyydd eich helpu?
  • A gynigiodd y cynorthwyydd eitem ychwanegol i chi?
  • A gawsoch holl sylw’r cynorthwyydd? 
  • A oedd tôn hwyliog a chyfeillgar gan yr holl gynorthwywyr y daethoch i gysylltiad â nhw?
  • A oedd unrhyw gynorthwywyr yn anghwrtais neu’n ddigywilydd?
  • A wnaeth unrhyw gynorthwyydd roi gwasanaeth uwchlaw’r disgwyl?
  • A roddodd y cynorthwyydd sylw dymunol i gloi (“Mwynhewch eich diwrnod,” “Diolch am siopa gyda ni,” “Diolch”, ac ati)?
  • A wnaeth yr ariannwr eich cyfarch/cydnabod y foment y cyrhaeddoch y cownter?
  • A ofynnodd yr ariannwr a oeddech wedi dod o hyd i bopeth?
  • A ddiolchodd yr ariannwr i chi ar ddiwedd eich trafodyn?
  • A oedd pob eitem yr oedd arnoch eisiau ei phrynu ar gael?

Faint o amser a gymerodd eich trafodyn o’r amser i chi gyrraedd