Dull Cyflwyno

Sefydliadau Trafnidiaeth

Mae trafnidiaeth yn bwysig iawn i’r diwydiant twristiaeth am ei fod yn galluogi twristiaid i gael mynediad i ble hoffent fynd; mae hefyd yn darparu swyddi eang ac amrywiol i bobl. Mae trafnidiaeth yn gallu digwydd yn yr awyr, ar dir neu ar y môr. Mae yna nifer o sefydliadau sy’n gweithredu o fewn y DU sy’n amrywio mewn maint a graddfa, o fach a chanolig i fawr neu ryngwladol.