Dull Cyflwyno

Cyflwyniad i’r Dysgwyr

Dychmygwch mai chi yw rheolwr atyniad twristiaeth.

Ar benwythnos ble nad ydych chi’n gweithio, rydych yn derbyn galwad yn dweud bod glawiad trwm wedi achosi llifogydd mewn rhannau o’r parc ac mae’r holl gwsmeriaid wedi cael eu  gwacáu gan y gwasanaeth tân.

Dau ddiwrnod yn ddiweddarach, mae damwain ffordd fawr yn cau’r draffordd sydd agosaf at y parc thema.

Ar ddiwedd yr wythnos, mae gyda chi gyfarfod â chyfarwyddwyr y cwmni sydd berchen ar y parc er mwyn egluro pam fod llai o deuluoedd wedi ymweld â’r parc y flwyddyn yma o gymharu â’r blynyddoedd cynt. Mae ymchwil yn dangos bod rhai teuluoedd yn gweld pris mynediad i’r parc yn fwy drud.

Yr wythnos ganlynol rydych yn derbyn hysbysiad gan y cyngor lleol yn dweud bod angen i chi ailgylchu 50% yn fwy o wastraff yn y flwyddyn nesaf.  Rydych chi hefyd yn darganfod bod y bwrdd twristiaid lleol wedi colli eu nawdd, felly nid ydyn nhw’n gallu gwerthu tocynnau ar gyfer y parc thema drwy eu Canolfan Groeso.

Yn hwyrach yr wythnos honno, rydych yn cael trafodaethau gyda threfnydd bysiau sy’n cynllunio dod â grwpiau o ymwelwyr o Ffrainc i’ch atyniad. Rydych yn sylweddoli y bydd angen i chi fuddsoddi mewn arwyddion newydd a gwybodaeth mewn Ffrangeg. Mae’r trefnydd bysiau eisiau gwybod os ydych chi’n gallu cynnig pris arbennig i bartïon o bensiynwyr sy’n cymryd mwy a mwy o wyliau gyda’r trefnydd.

Mae’r holl ddigwyddiadau uchod tu hwnt i’ch rheolaeth chi fel rheolwr y parc thema. Mae digwyddiadau naturiol fel llifogydd, pobl gyda mwy neu lai o arian i wario a ffactorau economaidd eraill yn gallu effeithio ar weithrediad sefydliadau twristiaeth.

Mae’r adran hon yn canolbwyntio ar y ffactorau allanol nad oes gan sefydliadau twristiaeth reolaeth drostyn nhw, ac yr effeithiau gall y ffactorau hyn gael ar y sefydliad.