Busnes Twristiaeth

MPA 1.1 Disgrifio ffurfiau o berchenogaeth ar gyfer sefydliadau twristiaeth

Gwasanaethau Cefnogi

Mae gwasanaethau cefnogi yn cynnwys sefydliadau fel VisitEngland neu Croeso Cymru, â’u prif swydd yw annog twristiaid i ymweld â’r wlad maen nhw’n ei gynrychioli er mwyn gwella cyfleusterau twristiaid. Maen nhw’n gweithredu ar lefel cenedlaethol; y llywodraeth sy’n eu hariannu, ac felly maen nhw’n perthyn i’w sector cyhoeddus.

Yn y blynyddoedd diweddar, mae rhai byrddau twristiaid lleol a rhanbarthol wedi cael eu disodli gan Sefydliadau Rheoli Cyrchfannau, sy’n gweithredu ar sylfaen mwy masnachol er mwyn annog buddsoddiad twristiaeth.

Hefyd, mae Canolfannau Croeso yn perthyn i’r sector cyhoeddus ond yn cael eu hariannu gan gynghorau lleol ac yn gweithio ar lefel leol. Eu swydd yw marchnata a monitro ansawdd a datblygiad yr ardal benodol maen nhw’n gwasanaethu. Maen nhw’n rhoi gwybodaeth i ymwelwyr am lety, atyniadau twristiaeth, bwytai a thrafnidiaeth. Maen nhw’n darparu mapiau o’r dref a’r rhanbarth maen nhw’n gwasanaethu.

Gweithgaredd

Mewn grwpiau o dri neu bedwar, ymchwiliwch y sefydliad VisitBritain, gwasanaeth cefnogi mwyaf y DU.

  • Beth mae’r gwasanaeth yn ei gynnig?
  • Sut mae’n hyrwyddo’r DU?

Yna, edrychwch ar eich bwrdd twristiaeth lleol neu ranbarthol a’i gymharu gyda’ch canfyddiadau am VisitBritain.

  • Sut maen nhw’n debyg a sut maen nhw’n wahanol?
  • Rhannwch eich canfyddiadau gyda’r dosbarth.

Gwnewch nodiadau am ganfyddiadau’r grwpiau eraill os ydynt yn cynnig unrhyw wybodaeth sy’n wahanol i’ch gwybodaeth chi.