Datblygu Cyrchfannau i Dwristiaid yn y Deyrnas Unedig

MPA 1.3 Arweiniad i’r Ganolfan

Cyflwyniad

Yn yr adran hon rhaid i chi ddefnyddio eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth am y nodweddion ar gyrchfannau twristiaeth i lunio adroddiad am un cyrchfan dewisol.        

Rhaid i’ch adroddiad egluro pam mae nodweddion eich cyrchfan dewisol yn apelio at wahanol fathau o dwrist.

Bydd Adnodd 2 yn eich helpu gyda’ch adroddiad am y bydd yn eich helpu i ddefnyddio ymadroddion yn lle’r gair oherwydd i wneud eich adroddiad yn fwy diddorol.

Adroddiad yw Adnodd 3 am apêl dinas Dulyn. Bydd hwn yn rhoi syniad i chi o’r hyn yr ydych yn anelu at ei gynhyrchu.