Datblygu Cyrchfannau i Dwristiaid yn y Deyrnas Unedig

MPA 2.1

Cyflwyniad

Adnodd 1 – Cyflwyniad i Ddysgwyr

Rydych chi bron yn ddigon hen i wneud eich penderfyniadau eich hunain am ble hoffech chi fynd ar wyliau a pha fath o weithgareddau rydych chi eisiau cymryd rhan ynddyn nhw.

Efallai rydych chi eisiau gwyliau ar y traeth a mwynhau’r bywyd nos.

Neu efallai rydych chi eisiau ymweld â dinasoedd adnabyddus y byd.

Mae’r uned hon yn crybwyll y pethau mae’n rhaid i chi eu hystyried cyn penderfynu ble hoffech chi deithio. Mae’r ffactorau sy’n effeithio ar broses penderfynu twrist yn cael eu trafod, sy’n cynnwys:

  • Faint fydd y gwyliau yn costio?
  • Beth yw eich disgwyliadau am y cyrchfan rydych am ymweldd ag ef?
  • Beth yw enw da’r cyrchfan?
  • Ydych chi wedi eich plesio gyda marchnata’r cyrchfan?
  • Beth yw nodweddion ac atyniadau’r cyrchfan?