Datblygu Cyrchfannau i Dwristiaid yn y Deyrnas Unedig

MPA 2.1

Enw da’r cyrchfan

Pan mae twristiaid yn cael gwyliau gwych, maen nhw’n canmol y cyrchfan, gan ddweud wrth ffrindiau a theulu am yr amser rhyfeddol maen nhw wedi’i gael a pha mor hyfryd o le yw’r cyrchfan. Felly hefyd, pan nad yw twristiaid yn cael profiad mor dda, maen nhw’n siarad yn wael am y cyrchfan, gan ddweud pethau drwg ac yn ei feirniadu o ganlyniad i’w profiad gwael. O ganlyniad, mae’r cyrchfan yn derbyn statws o fod naill ai’n dda neu’n ddrwg. Mae’r statws yn gallu cyfrannu at benderfyniad twrist i ymweld â’r gyrchfan, neu beidio. Fodd bynnag, nid yw pob adolygiad gwael yn wir; mae’n bosib bod y profiad go iawn heb gyrraedd disgwyliadau’r twrist.

Ar gyfer yr adran hon, bydd angen i chi ystyried y math o dwrist mewn perthynas â’r ffactorau canlynol

  • A fydd y cyrchfan yn rhy brysur neu’n orlawn? Yn rhy dawel, neu hyd yn oed yn wag?
  • Ydy’r gyrchfan yn rhy ddrud neu’n rhy rhad?
  • Ydy’n apelio’n ormodol at dwristiaid, neu ddim digon?
  • Ydy’r cyrchfan yn ‘anghynhwysol’ (exclusive)? Mae llawer o dwristiaid yn mwynhau’r ffaith bod modd iddyn nhw fwynhau moethusrwydd cyrchfan anghynhwysol.
  • A fydd y cyrchfan yn ‘ddi-chwaeth’?
  • A fydd gormod o bobl yn y cyrchfan? A fydd digon o le i barcio ceir? A fydd y traffig yn drwm? A fydd ciwiau?

Gweithgaredd

Darllenwch yr wybodaeth ar y cerdyn post, yna atebwch y cwestiynau yn eich geiriau eich hun, heb godi gwybodaeth o’r testun.

Belfast, Gogledd Iwerddon

Prif ddinas Gogledd Iwerddon yw Belfast ac roedd ganddi’r ddelwedd o fod yn llawn bomiau, wedi’i gwahanu gan drais sectyddol ac ardaloedd dim mynediad.

Daeth diwedd ‘Yr Helyntion’ â thrawsnewidiad trawiadol i ganol cain, Fictoraidd, y ddinas. Mae’n cynnwys tafarndai hanesyddol, bwytai coeth ac ardaloedd siopa wedi’u hadfywio.

Crwydrwch o gwmpas canol y ddinas, siopau Donegall Place a rhanbarth hanesyddol y Brifysgol. Mae Belfast Titanic yn adrodd stori’r llong enwog, a gafodd ei hadeiladu yn yr iard longau gyfagos. Mae murluniau o hen ffyrdd drwg-enwog Falls a Shankill nawr yn ddiddorol. Mae Belfast yn lle gwych i ymweld ag ef.

Cwblhewch y tabl gan ddefnyddio’r wybodaeth o’r paragraffau uchod i’ch helpu chi.

Gwlad Thai

Mae llyfr newydd wedi enwi Gwlad Thai yn un o gyrchfannau twristiaid mwyaf peryglus y byd.  Mae’r awdur o Awstralia, John Stapleton, yn awgrymu bod heddlu llwgr, trais a throsedd eang yn difetha gwlad a oedd unwaith yn enwog fel y ‘Land of Smiles’.

Yn ei lyfr, Thailand: Deadly Destination, mae Mr Stapleton yn ceisio datgelu statws Gwlad Thai o fod yn wlad groesawgar.  Mae'n  honni bod y ffyniant mewn twristiaeth ers yr 1960au wedi creu casineb at dramorwyr a ‘difaterwch llofruddiog’ i’r miliynau o dwristiaid sy’n heidio i’r traethau tywod gwyn, y cefn gwlad ddarluniadwy a’r bywyd nos cyffrous bob blwyddyn.

Dyma farn un dyn wedi’i selio ar ei brofiadau personol. Mae miliynau o dwristiaid yn ymweld â Gwlad Thai yn flynyddol, sydd wedi cael profiadau anhygoel, ac yn meddwl yn wahanol i Mr Stapleton.

Cwblhewch y tabl gan ddefnyddio’r wybodaeth o’r paragraffau uchod i’ch helpu chi.