Datblygu Cyrchfannau i Dwristiaid yn y Deyrnas Unedig

MPA 4.1

Cyflwyniad

Un o’r ffyrdd gorau o ddangos bod rhaid i gyrchfannau ac atyniadau ddatblygu eu cynhyrchion yw drwy ddatblygu reidiau newydd mewn parc hamdden. Defnyddia reidiau fel y Wicker Man y dechnoleg ddiweddaraf gan gyfuno pren, tân ac effeithiau arbennig i roi’r teimlad o rasio drwy fflamau go iawn. 

Os na fydd atyniadau a chyrchfannau’n buddsoddi yn eu cynhyrchion a’u gwasanaethau, byddant yn dyddio ac yn colli apêl. Yn yr adran hon, bydd angen i chi ystyried yn ofalus y ffordd y gall y cyrchfan y buoch yn ei astudio gynyddu ei apêl i wahanol fathau o dwrist.                            

Byddwch yn gallu meddwl am amrywiaeth o ffyrdd y gallai eich cyrchfan dewisol gynyddu ei apêl i dwristiaid.             

Yn yr adran nesaf, bydd gofyn i chi awgrymu beth ddylai eich cyrchfan dewisol ei wneud i gynyddu ei apêl.       

Ffeil Ffeithiau – ICON

Lleoliad – Traeth Pleser Blackpool

Ffeithiau allweddol: Cwymp fertigol – 25 metr;  1,140 metr o hyd i gyd

Cyflymder – 52 mya, Cost – £16.25miliwn

Ffactor neilltuol:  Dau droelliad wyneb i waered a chwymp 80 troedfedd

Ffeil Ffeithiau – The Wicker Man

Lleoliad – Alton Towers

Ffeithiau allweddol: Cwymp fertigol – 14 metr; 618 metr o hyd i gyd

Cost – £16 miliwn

Ffactor neilltuol: Mae’r Wicker Man 17.5 metr yn ymddangos fel petai’n mynd ar dân.

Mawrion Eraill!

Y reid colli cylla dalaf yn y byd – 139 metr, sef Kinga Ka yn Jackson, New Jersey, yr Unol Daleithiau
 
Y reid colli cylla gyflymaf yn y byd – 150mya yn Formula Rossa, Abu Dhabi, yr Emiradau Arabaidd Unedig
 
Y reid colli cylla hiraf y byd – 2,479 metr, Mile, Japan