Llwyddo ym maes ‘Profiad y Cwsmer’

MPA 1.2 Sefyllfaoedd pan fydd cwsmeriaid yn rhyngweithio â sefydliadau twristiaeth

Cwrdd â’r Cwsmer

Daw pobl sy’n gweithio i sefydliadau twristiaeth i gysylltiad â chwsmeriaid yn rheolaidd. Yn aml, byddant yn gwerthu cynhyrchion y diwydiant twristiaeth i’w cwsmeriaid. Efallai na fyddwch yn gallu gweld y cynnyrch na mynd ag ef adref am fod y cynnyrch yn anghyffyrddadwy, ond cynnyrch ydyw o hyd. Mae gwyliau, aros mewn gwesty a thocynnau parc hamdden i gyd yn gynhyrchion y diwydiant twristiaeth.

Yn aml iawn, rhaid i bobl sy’n gweithio yn y diwydiant twristiaeth roi cyngor i’w cwsmeriaid, neu roi gwybodaeth fanwl – felly mae angen iddynt fod yn siŵr o’u ffeithiau!

Efallai hefyd y bydd pobl sy’n gweithio yn y diwydiant yn gorfod ymdrin â chwynion gan gwsmeriaid – mae’n bosibl gwneud camgymeriadau! Yn gynyddol, gall cwsmeriaid wneud cwynion neu roi canmoliaeth gan ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol.

Yn yr adran hon, byddwch yn dysgu am y ffyrdd y mae sefydliadau twristiaeth yn rhyngweithio â’u cwsmeriaid, a phwysigrwydd bod yn hyderus wrth roi gwybodaeth i gwsmeriaid.