Busnes Twristiaeth

MPA 2.1 Amgylchedd busnes y DU

Ffactorau Cymdeithasol

Nid oes gan sefydliadau twristiaeth unrhyw reolaeth dros beth sy’n digwydd yn y wlad ble maen nhw wedi’u lleoli. Nid ydyn nhw’n gallu rheoli cyfradd twf y boblogaeth, cyfraddau genedigaethau a marwolaethau neu gyfanswm y mewnfudiad. Fodd bynnag, mae’n rhaid iddyn nhw ymateb i amodau cymdeithasol newidiol mewn gwlad. Mae’r prif newidiadau cymdeithasol sydd wedi digwydd yn y DU dros yr 20 mlynedd diwethaf yn cynnwys:

  • Poblogaeth sy’n tyfu
  • Poblogaeth sy’n heneiddio
  • Poblogaeth fwy amlddiwylliannol
  • Strwythur teulu newidiol
  • Ymwybyddiaeth o anghenion arbennig
  • Newid mewn agwedd tuag at rywioldeb hoyw a thrawsrywedd

Gweithgaredd 1

Ymchwiliwch atyniadau eraill i weld beth yw eu polisi ynglŷn ag aelodaeth teulu.

  •  Oes gan wahanol atyniadau reolau gwahanol?
  •  Beth ydych chi’n credu yw manteision ac anfanteision y polisi sy’n cael ei ddangos uchod?

Un o’r newidiadau cymdeithasol mwyaf arwyddocaol yn y DU yw poblogaeth sy’n heneiddio. Mae pobl yn byw am gyfnod hirach ac yn cymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau twristiaeth, mewn sawl achos, nes eu bod yn eu 80au. Mae sefydliadau twristiaeth wedi gorfod datblygu cynhyrchion newydd er mwyn diwallu’r galw hwn. Hefyd, os yw person yn hen, dydy hynny ddim yn golygu bod ganddyn nhw anghenion arbennig!

Mae’r tabl isod wedi’i gymryd o ffigurau’r llywodraeth sy’n dangos pa mor hir y disgwylir i ddyn neu ddynes sydd wedi’u geni mewn unrhyw flwyddyn i fyw ar gyfartaledd. Mae’r tabl hefyd yn amcangyfrif sut mae’r ffigur hwn, sef disgwyliad oes, yn debygol o gynyddu yn y dyfodol.

Gweithgaredd 2

Trafodwch y ffyrdd mae pobl hŷn yn cymryd rhan mewn gweithgareddau twristiaeth. Efallai bod ganddoch chi deidiau a neiniau sy’n dal i fynd ar wyliau yn rheolaidd – be maen nhw’n ei wneud, a ble maen nhw’n mynd ar eu gwyliau?

Gweithgaredd 3

Mae Gwyliau Saga yn gwmni sy’n arbenigo mewn gwyliau ar gyfer pobl sydd dros 50 oed. Astudiwch wefan y sefydliad, ac ysgrifennwch tua 100 gair yn amlinellu’r ffyrdd y mae’r cwmni yn darparu gwyliau ar gyfer pobl sydd dros 50 oed.