Beth yw iaith berswadiol? Pam mae mor bwysig?
Mae iaith berswadiol yn helpu i bwysleisio’r hyn sy’n cael ei ddweud, ac mae’n ennyn diddordeb y darllenydd. Felly, ar gyfer yr adran hon, bydd angen i chi allu dangos y gallwch ddeall iaith berswadiol yng nghyd-destun twristiaeth a sut mae’n helpu i gynyddu apêl cyrchfan.
Defnyddir yr acronym AFOREST yn gyffredin fel techneg iaith berswadiol. Efallai y byddwch wedi gweithio gyda’r acronym hwn yn eich gwersi Saesneg.
AFOREST
- A – (Alliteration, anecdotes) sef cyflythreniad, hanesion
- F – (Facts, forceful phrases) sef ffeithiau, ymadroddion penderfynol
- O – (Opinions) sef barn
- R – (Repetition, rhetorical questions, reader focus (personal pronouns), reliable source) sef ailadrodd, cwestiynau rhethregol, ffocws ar y darllenydd (rhagenwau personol), ffynhonnell ddibynadwy
- E – (Exaggeration, emotive language, examples) sef gorliwio, iaith emosiynol, enghreifftiau
- S – (Statistics, shock tactics, structure) sef ystadegau, siocdacteg, strwythur
- T – (Tripling (rule of three)) sef treblu (rheol tri)
Cynnwys y gellir ei lawrlwytho
- Word (.docx): U3-5.2-Adnodd3.docx