Adnodd 1 – Cyflwyniad i Ddysgwyr
Rydych chi bron yn ddigon hen i wneud eich penderfyniadau eich hunain am ble hoffech chi fynd ar wyliau a pha fath o weithgareddau rydych chi eisiau cymryd rhan ynddyn nhw.
Efallai rydych chi eisiau gwyliau ar y traeth a mwynhau’r bywyd nos.
Neu efallai rydych chi eisiau ymweld â dinasoedd adnabyddus y byd.
Mae’r uned hon yn crybwyll y pethau mae’n rhaid i chi eu hystyried cyn penderfynu ble hoffech chi deithio. Mae’r ffactorau sy’n effeithio ar broses penderfynu twrist yn cael eu trafod, sy’n cynnwys:
- Faint fydd y gwyliau yn costio?
- Beth yw eich disgwyliadau am y cyrchfan rydych am ymweldd ag ef?
- Beth yw enw da’r cyrchfan?
- Ydych chi wedi eich plesio gyda marchnata’r cyrchfan?
- Beth yw nodweddion ac atyniadau’r cyrchfan?