Datblygu Cyrchfannau i Dwristiaid yn y Deyrnas Unedig

MPA 2.1

Datblygiadau Technolegol

Mae datblygiadau mewn technoleg yn golygu bod gan bobl y cyfle i bori’r rhyngrwyd yn eu hamser eu hunain, archebu taith hedfan, gwirio amserau gadael/cyrraedd teithiau hedfan, archebu llety, ymchwilio digwyddiadau, edrych ar adolygiadau, a hyd yn oed, cynllunio pecyn unigryw a phersonol. Mae’r posibiliadau yn ddiddiwedd. Does dim rhaid i bobl ymweld ag asiantaeth deithio ar y stryd fawr; maen nhw’n gallu gwneud hyn eu hunain. Mae datblygiadau technolegol yn chwarae rhan allweddol ym mhroses penderfynu twrist.

  • Archebu llety ar-lein
  • Ymweliadau/teithiau wedi’u harchebu o flaen llaw
  • Gwefannau ar gyfer digwyddiadau penodol
  • Trip Advisor
  • Apiau
  • Rhestri trafnidiaeth amser go iawn

Mae datblygiadau technolegol o’r fath wedi dylanwadu ar broses penderfynu twristiaid, gan fod nawr modd iddyn nhw edrych yn eu hamser eu hunain, cymharu cyrchfannau, a chreu pecyn unigryw o’u ffôn, gliniadur, iPad neu PC.

Gweithgaredd 1

Gan ddefnyddio eich ffôn, iPad neu PC, mewngofnodwch i un o’r gwefannau archebu ar-lein poblogaidd, e.e. Booking.com neu Expedia, neu unrhyw un arall.

Darganfyddwch y gost o archebu 1 ystafell yng Nghaerdydd ar gyfer 2 noson, dydd Gwener a dydd Sadwrn wythnos nesaf.

Gweithgaredd 2

Gan ddefnyddio eich ffôn, iPad neu PC, mewngofnodwch i www.castellcaerdydd.com

  • Darganfyddwch y gost o archebu tocyn mynediad cyffredin henoed
  • Darganfyddwch y gost o archebu tocyn mynediad cyffredin myfyriwr
  • Faint yw arweinlyfr?

Sut fyddwch chi’n mesur yr ymchwil ar raddfa o 1-5? 1 = anodd a 5 = hawdd

Gweithgaredd 3

Meddyliwch am ddigwyddiad yr hoffech chi fynd iddo. Efallai ei fod yn ddigwyddiad cerddoriaeth, chwaraeon neu ddiwylliannol.

Gan ddefnyddio eich ffôn, iPad neu PC, ymchwiliwch gostau tocyn i chi fynychu’r digwyddiad dewisol.

Gweithgaredd 4

Pa wybodaeth ddefnyddiol arall allwch chi ei ddarganfod ar wefan y digwyddiad rydych chi wedi’i ddewis yng ngweithgaredd 3?

Gweithgaredd 5

Apiau

Beth yw apiau? Yn Saesneg, mae ‘App’ yn fyr ar gyfer ‘application’ – sef enw arall ar gyfer rhaglen gyfrifiadur. Mae pobl fel arfer yn cyfeirio at raglenni sy’n rhedeg ar ddyfeisiau ffonau symudol fel ffonau clyfar neu gyfrifiaduron tabled. Maen nhw’n ffordd o berfformio bron i unrhyw dasg ar eich ffôn, ac mewn ychydig o flynyddoedd yn unig, maen nhw wedi dod yn ffenomenon. Mae yna nawr dros 500,000 o apiau ar gael ar yr Iphone ei hun, ac mae’r rhifau hyn yn parhau i dyfu.

Gyda chymaint o apiau i ddewis ohonynt, mae gan bobl ddewis eang ac amrywiol i gwrdd â’u hanghenion. Ar ddyfeisiadau ‘apple’, mae yna ‘App Store’. Ar ddyfeisiadau Android mae yna’r ‘Android market’, ar Ffôn Windows mae yna ‘Windows Marketplace’, ac ar ffonau Nokia, mae’r ‘Ovi store’. Mae apiau yn amrywio mewn pris, o fod am ddim i £50.

Gweithgaredd 6

  • Ceisiwch ddarganfod ap addas i’ch cynorthwyo i gynllunio siwrnai sy’n cynnwys amserau trên neu fws
  • Ceisiwch ddarganfod ap addas i’ch cynorthwyo gydag archebu llety
  • Ceisiwch ddarganfod ap addas i’ch cynorthwyo i ddarganfod atyniadau mewn cyrchfan o’ch dewis chi

Gweithgaredd 7

Eglurwch pam fod apiau wedi dod mor boblogaidd?