Mae twristiaid yn creu eu disgwyliadau eu hunain am gyrchfan, e.e. efallai eu bod nhw’n edrych am rywle ble mae modd iddyn nhw gymryd rhan yn eu hoff chwaraeon neu hobi neu rywle ble mae modd iddyn nhw ymlacio ar y traeth. Efallai eu bod nhw eisiau mynd i rywle ar gyfer digwyddiad penodol, e.e. Cwpan Rygbi’r Byd, neu o ganlyniad i harddwch naturiol, diwylliant a thraddodiadau’r cyrchfan. Os ydyn nhw’n gwario arian maen nhw wedi gweithio’n galed i’w ennill ar wyliau, maen nhw eisiau’r cyrchfan gwrdd â’u disgwyliadau nhw.
Gweithgaredd 1
Meddyliwch am wyliau byddech chi wrth eich bodd yn mynd arno. Trafodwch hyn gyda’ch cyd-ddisgybl. Oes gyda chi’r un disgwyliadau?
Mewn 50 gair, disgrifiwch eich disgwyliadau personol chi ar gyfer gwyliau o’ch breuddwydion. Gallwch chi ddefnyddio’ch geiriau eich hunain, ac unrhyw eiriau neu ymadroddion o’r rhestr isod i’ch helpu.
Tywydd gwych, parciau dŵr, parc thema, taith hedfan fyr, taith hedfan hir, traethau da, llawer o weithgareddau hwyl, llety moethus, sgïo gwych, llawer o eira, snorclo, deifio sgwba, saffari, gwersylla, bwyd da, nofio mewn môr cynnes, mwynhau cyffro, mwynhau ar y traeth, â diddordeb mewn diwylliant, orielau celf, amgueddfeydd.
Gweithgaredd 2
Pa ddisgwyliadau sydd gan dwristiaid am lety? Ydyn nhw eisiau moethusrwydd 5* neu oes gyda nhw mwy o ddiddordeb mewn gweithgareddau a phethau i’w gwneud? Mae gan lawer o dwristiaid ddisgwyliadau gwahanol.
Ceisiwch feddwl, yna ymchwilio cyrchfan addas yn y DU a fyddai’n cwrdd â disgwyliadau un o’r mathau o dwrist o weithgaredd 3. Efallai byddwch chi eisiau edrych ar wefan adolygu, fel TripAdvisor er mwyn derbyn barn pobl ar gyfleusterau fel llety a gweithgareddau yn eich cyrchfan dewisol. Crëwch PowerPoint neu boster er mwyn ‘gwerthu’ eich cyrchfan.
Gweithgaredd 3
Dychmygwch eich hun fel twrist mewn cyrchfan yn y DU. Rydych chi wedi cael profiad anhygoel yn y cyrchfan. Rydych chi’n mynd i adael adolygiad cadarnhaol am y llety, y bwyd a’r atyniadau ymwelwyr rydych chi wedi’u mwynhau.
Ysgrifennwch eich adolygiad cadarnhaol isod.
Cynnwys y gellir ei lawrlwytho
- Word (.docx): U3-2.1-Adnodd3.docx