Datblygu Cyrchfannau i Dwristiaid yn y Deyrnas Unedig

MPA 3.2

Cydberthnasoedd Twristiaeth yn Nulyn

Mae Dulyn, prif ddinas Gweriniaeth Iwerddon, yn gyrchfan twristiaeth pwysig gydag amrywiaeth o atyniadau. Mae’n rhaid i sefydliadau twristiaeth o fewn y ddinas weithio mewn partneriaeth er mwyn datblygu cynhyrchion a gwasanaethau newydd, fel y gall Dulyn barhau i ddenu twristiaid.

Mae’r disgrifiad isod yn dangos sut gallwch chi egluro’r cydberthnasoedd rhwng sefydliadau sy’n rhan o ddatblygiad twristiaeth mewn cyrchfan yn y DU.

Dulyn – Cydberthnasoedd a Datblygiad Twristiaeth

Mae gan Ddulyn statws o fod yn ddinas gyfeillgar a chroesawgar sy’n hawdd i fynd o’i chwmpas. Mae’n rhaid i nifer o sefydliadau twristiaeth gydweithio er mwyn gwneud hyn yn bosibl.

Trafnidiaeth

Un o’r cydberthnasoedd pwysicaf yw rhwng Maes Awyr Dulyn a nifer o gwmnïau hedfan mawr, fel Emirates, American Airlines a Delta Airlines sy’n hedfan twristiaid i Ddulyn, yn bennaf o’r Unol Daleithiau. Mae’r maes awyr wedi agor ail derfynfa yn y blynyddoedd diwethaf. Mae hyn yn gwneud hi’n haws i gwmnïau hedfan weithredu. Mae’r maes awyr hefyd yn cynllunio agor rhedfa bellach er mwyn galluogi mwy o awyrennau i lanio. Bydd hyn yn helpu twristiaeth.

Mae Maes Awyr Dulyn yn gweithio mewn partneriaeth gyda nifer o drefnwyr bysiau a bysiau moethus sy’n cynnig ystod o lwybrau o’r maes awyr i wahanol ardaloedd y ddinas. Mae hyn yn rhoi llawer o ddewis i dwristiaid sy’n cyrraedd y ddinas.

Mae teithio o gwmpas Dulyn yn hawdd iawn i dwristiaid. Mae Dublin Bus yn rhedeg dros 900 o fysiau a gyda rhwydwaith dda o lwybrau i dwristiaid. Hefyd, mae yna DART – cwmni trên arfordirol a system rheilffordd ysgafn, sef LUAS. Er bod y rhain yn cael eu rheoli gan wahanol gwmnïau, mae’r sefydliadau yn cydweithio i gynnig CERDYN LEAP sy’n gallu cael ei ddefnyddio ar bob trafnidiaeth gyhoeddus. Mae twristiaid yn gallu prynu Cerdyn Leap Ymwelydd yn y maes awyr, sy’n eu helpu’n sylweddol. Mae’r holl sefydliadau yma nawr yn darparu gwybodaeth ddiweddaraf ar ap, sy’n ddatblygiad diweddar.

Llety

Un o’r problemau mae twristiaid yn wynebu yw prinder gwestyau. Mae hyn yn golygu ei fod yn ddinas ddrud i aros ynddi. Mae’r gwestyau yn Nulyn yn gweithio mewn partneriaeth gyda chwmnïau archebu ar-lein fel Booking.com, Trip Advisor a Last Minute.com. Mae llety hefyd yn gallu cael ei archebu trwy Airbnb.

Mae gwestyau yn Nulyn hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â VisitDublin.com. Dyma wefan wybodaeth swyddogol Dulyn, sy’n darparu ystod o wybodaeth gyfoes.

Mae angen i gwmnïau gwestyau weithio’n agos gydag awdurdodau lleol a chynllunwyr er mwyn sicrhau bod digon o ystafelloedd gwesty yn y dyfodol.

Atyniadau

Mae’r mwyafrif o’r atyniadau yn Nulyn wedi’u hadeiladu yn bwrpasol, fel amgueddfeydd ac orielau celf. Mae yna hefyd fannau agored ar hyd yr Afon Liffey, ble mae pobl yn hoffi cerdded ar hyd y glannau. Yr atyniad mwyaf poblogaidd yw’r Guinness Storehouse.

Guinness Storehouse, yr “Home of Guinness” yw atyniad twristiaid mwyaf poblogaidd Dulyn. Roedd unwaith yn ffatri fragu, mae’n awr wedi cael ei thrawsnewid i amgueddfa Guinness, yn cynnwys elfennau o’r hen ffatri fragu er mwyn esbonio hanes cynhyrchiad Guinness. Mae rhai o’r hen offer bragu yn cael eu harddangos, yn ogystal â chynhwysion stowt/cwrw du, technegau bragu, dulliau hysbysebu a dyfeisiau storfeydd.

Mae’r arddangosfa yn ymestyn dros 7 llawr, mewn adeilad siâp gwydr 14 miliwn peint o Guinness. Y llawr uchaf yw’r Gravity Bar, sydd bron â golygfa banoramig lawn o’r ddinas, ble mae ymwelwyr yn gallu mwynhau peint o Guinness am ddim.’

Mae’r Guinness Storehouse yn atyniad sy’n rhaid ymweld ag ef yn Nulyn. Mae modd prynu tocynnau ar gyfer yr atyniad ar lawer o wefannau, fel Trip Advisor, ac mae yna nifer o deithiau gwahanol y gall ymwelwyr ddewis.

Mae llawer o’r prif atyniadau yn Nulyn, mewn partneriaeth gyda bysiau ymwelwyr a sefydliadau eraill, yn rhan o’r Dublin Pass.

Pecyn ymweld yw’r Dublin Pass sy’n rhoi mynediad am ddim i ymwelwyr i dros 30 o brif atyniadau, amgueddfeydd a henebion yn Nulyn, yn ogystal â thocyn bws 24 awr ‘hop on, hop off’ am ddim. Dyma’r ffordd orau i grwydro Dulyn, gyda buddion eraill fel Mynediad Llwybr Carlam a thaith unffordd o neu i’r maes awyr wedi’i gynnwys am ddim. Mae hyn yn arbed amser ac arian i ymwelwyr.

Datblygiad diweddar yw bod pobl sy’n prynu’r Dublin Pass nawr yn gallulawr lwytho’r tocyn i’w ffôn clyfar yn uniongyrchol. Mae’r tocyn ffôn symudol yn cynnwys cod QR unigryw sy’n caniatáu’r ymwelwyr i fynychu’r atyniad am ddim. Mae hyn yn arbed gorfod anfon y tocyn drwy’r post i’r ymwelydd cyn iddyn nhw gyrraedd y ddinas. Mae hyn yn ddatblygiad diddorol iawn, yn enwedig gydag oedolion ifanc, sef un o’r grwpiau ymwelwyr mwyaf i Ddulyn.

Canolfannau a byrddau croeso

Mae yna nifer o sefydliadau sy’n darparu gwybodaeth i dwristiaid am Ddulyn. Mae Tourism Ireland yn gweithio mewn partneriaeth â Falite Ireland (bwrdd croeso Gweriniaeth Iwerddon) a Tourism Northern Ireland. Maen nhw’n gweithio mewn partneriaeth er mwyn cefnogi gwefan Tourism Ireland.

VisitDublin.com yw’r wefan gwybodaeth twristiaeth swyddogol sy’n darparu ystod eang o wybodaeth i helpu twristiaid wneud y mwyaf o’u hymweliad i’r ddinas. Mae’r prif ganolfan ymwelwyr ar Stryd Suffolk yn darparu ystod o wybodaeth mewn pedair iaith, ac yn gwerthu’r Dublin Pass.

Fodd bynnag, nid yw Canolfan Ymwelwyr Dulyn yn ganolfan ymwelwyr ‘swyddogol’, ond yn hytrach yn weithred breifat sy’n gwerthu tocynnau disgownt i atyniadau, fel y gwelir isod.

Mae’r prif atyniadau a sefydliadau twristiaeth eraill yn gorfod gweithio mewn partneriaeth â holl sefydliadau’r sector cyhoeddus a phreifat sy’n gwerthu tocynnau ar gyfer atyniadau yn Nulyn. Enghraifft dda o hyn yw’r bws ‘hop on, hop off’ sy’n teithio o gwmpas y ddinas (i’w gweld uchod). Mae yna ddisgownt o 15% ar gael ar gyfer tocynnau sydd wedi’u prynu yng Nghanolfan Ymwelwyr Dulyn.

Mae’r cydberthnasoedd hyn yn newyddion da i dwristiaid, yn enwedig rheini sy’n gallu trefnu eu hymweliad o flaen llaw, yn hytrach na throi i fyny wrth fynedfa’r atyniadau. Mae’r bws sy’n teithio o gwmpas y ddinas a’r Dublin Pass yn darparu ffordd ardderchog i dwristiaid i gael gwerth da o’u hymweliad i’r ddinas.

Awdurdodau Lleol

Mae Cyngor Dinas Dulyn wedi datblygu cynllun ar gyfer datblygiad twristiaeth yn y ddinas ar gyfer y blynyddoedd nesaf. Os fydd y cynllun yn llwyddiannus, bydd yn rhaid i’r cyngor weithio gyda nifer o bartneriaid.

Mae’r cynllun yn cynnwys tair rhan:

  1. Gwella profiad ymwelwyr drwy greu dinas ddiogel sy’n croesawu pobl o bedwar ban y byd
  2. Gwella profiad ymwelwyr drwy greu diwylliant bywiog ac amrywiol
  3. Gwneud y ddinas yn fwy cysylltiol drwy wella trafnidiaeth gyhoeddus, beicio a chyfleusterau cerdded.

Mae gan y cynllun nifer o amcanion, ac ni fydd llawer o’r rhain yn cael eu cyflawni os na fydd y cyngor yn gweithio mewn partneriaeth gydag ystod eang o sefydliadau. Mae’r amcanion yn cynnwys:

  • Creu dinas sy’n gyfeillgar i gerddwyr o safon fyd-eang – i wneud hyn, efallai bydd angen i’r cyngor dinas weithio gydag awdurdodau a sefydliadau trafnidiaeth eraill er mwyn penderfynu pa rannau o’r ddinas y gellir eu gwneud yn ardaloedd i gerddwyr yn unig.
  • Hyrwyddo Dulyn fel dinas o ddigwyddiadau – i wneud hyn, bydd yn rhaid i’r cyngor weithio mewn partneriaeth â pherchenogion y ddwy stadiwm fawr, Parc Croke a Stadiwm Aviva, yn ogystal â theatrau mawr fel y 3 Arena.
  • Hyrwyddo Dulyn fel dinas o lenyddiaeth – mae Dulyn wedi cael ei dynodi gan UNESCO fel dinas o lenyddiaeth, ac mae’r cyngor yn awyddus i adeiladau ar y statws hwn er mwyn hyrwyddo twristiaeth.
  • Atynnu mwy o ymwelwyr i’r ddinas – y gobaith yw cynyddu niferoedd twristiaid 7% bob blwyddyn. I wneud hyn, bydd angen i’r cyngor weithio mewn partneriaeth â chyrff twristiaeth, fel Dublin Tourism, Falite Ireland a Tourism Ireland, yn ogystal â sefydliadau mawr fel Maes Awyr Dulyn. Bydd hefyd angen i’r cyngor weithio’n agos gyda chynllunwyr a threfnwyr llety er mwyn agor mwy o westyau yn y ddinas, gan fod prinder llety i dwristiaid yn broblem sylweddol ar hyn o bryd.
  • Datblygu diwylliant bwyd bywiog – mae agor caffis a bwytai newydd yn cynnig gwahanol fathau o fwyd yn syniad gwych, bydd hyn yn cynyddu’r dewis ar gyfer twristiaid. Bydd angen i’r cyngor weithio mewn partneriaeth gyda nifer o fwytai.
  • Ehangu’r system trafnidiaeth gyhoeddus  – ni all y cyngor dinas wneud hyn heb weithio mewn partneriaeth â darparwyr trafnidiaeth fel Dublin Bus a DART. Mae cynyddu hygyrchedd y ddinas drwy drafnidiaeth gyhoeddus yn syniad gwych a fydd yn lleihau’r effeithiau amgylcheddol.
  • Datblygu dinas sy’n hawdd i gerdded ynddi – mae Visit Dublin wedi datblygu The Dubin Trail , sef taith gerdded drwy’r ddinas ble gall twristiaid lawrlwytho ap. Dyma syniad gwych i ddatblygu mwy o ffyrdd y gall technoleg ffonau symudol ac apiau gael eu defnyddio i ddarparu gwybodaeth i dwristiaid.
  • Datblygu dinas sy’n hawdd i feicio ynddi – mae’r cyngor yn awyddus i ymestyn y system logi beic Dublin Bikes sydd wedi’i gyflwyno’n ddiweddar yn y ddinas. Mae hon yn enghraifft wych o sefydliadau twristiaeth yn gweithio mewn partneriaeth. Mae’r cynllun yn cael ei noddi gan y gadwyn fwyd Just Eat, a gellir defnyddio’r Cerdyn Leap Ymwelydd i dalu am y beiciau.

Carfanau Pwyso

Un o’r carfanau pwyso pwysicaf yn Nulyn yw’r Dublin Civic Trust. Mae’r elusen yn gweithio i sicrhau bod yr adeiladau coeth, sy’n cyfrannu’n sylweddol at apêl Dulyn, yn cael eu cadw a’u hamddiffyn. Mae'r elusen yn gweithio er mwyn amddiffyn adeiladau hanesyddol sydd o dan fygythiad gan ddatblygiad.

Mae’r elusen yn credu bod gan Ddulyn lawer iawn i’w gynnig fel un o ddinasoedd Ewropeaidd pwysicaf o ran adeiladau hanesyddol a hanes cymdeithasol. Gellir defnyddio natur amrywiol yr adeiladau yn y ddinas i atynnu mwy o ymwelwyr yn y dyfodol.