Datblygu Cyrchfannau i Dwristiaid yn y Deyrnas Unedig

MPA 3.2

Magu cydberthynas

Bron â bod ym mhob achos, mae’n rhaid i sefydliadau twristiaeth gydweithio er mwyn arwain at ddatblygiad twristiaeth. Er enghraifft:

  • Does dim pwynt adeiladu parc thema newydd os nad yw’r llwybrau trafnidiaeth yn ddigon da i alluogi ymwelwyr i gyrraedd yr atyniad yn hawdd.
  • Does dim pwynt adeiladu gwesty newydd os nad oes unrhyw atyniadau yn yr ardal.

Wrth gydweithio, mae sefydliadau twristiaeth yn gallu datblygu perthnasoedd llwyddiannus sy’n arwain at ddatblygiad twristiaeth. Mae hyn yn helpu’r busnesau eu hunain a’r gymuned leol.

Mae stori'r perchennog gwesty isod yn dangos sut mae gweithio mewn partneriaeth gyda sefydliadau twristiaeth eraill yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i lwyddiant busnes twristiaeth, ac arwain at ddatblygiad twristiaeth.

‘Fy enw i yw Ali Iqbal, a fi yw perchennog Gwesty Burnham Oaks. Mae’r gwesty wedi’i raddio fel 3-seren gyda 65 ystafell wely en-suite, bwyty a neuadd ddigwyddiadau sy’n gallu dal hyd at 120 o bobl wedi eistedd. Does dim cyfleusterau hamdden na phwll nofio yn y gwesty.

Fe brynais i'r gwesty 2 mlynedd yn ôl ac mae gan i forgais mawr ar yr adeilad. Dim ond bron â chadw i fyny gada’r ad-daliadau ydw i. Fodd bynnag, rydw i wedi bod yn edrych am ffyrdd i ddatblygu’r gwesty fel fy mod yn gallu darparu gwell cynhyrchion a gwasanaethau, atynnu busnesau, ac wedyn, cynyddu taliadau.

Yn ddiweddar, ymunais â’r bwrdd croeso lleol. Fodd bynnag, rydw i nawr yn ymwybodol ei fod yn Sefydliad Marchnata Cyrchfan. Doeddwn i ddim yn ymwybodol o beth oedd hyn cyn i’w cynrychiolydd esbonio eu rôl i mi. Roedd y cyfarfod gefais yn fuddiol dros ben ac mae wedi rhoi llawer o syniadau newydd i mi am sut gallaf ddatblygu fy ngwesty drwy weithio gyda busnesau twristiaeth.

Y darn cyntaf o newyddion da yw bod fy nhâl aelodaeth i’r DMO yn rhoi hawl i mi gael Gwesty Burnham Oaks wedi’i restru ar eu gwefan. Dylai hyn ddenu llawer mwy o gwsmeriaid sy’n archebu drwy eu gwefan, drwy archebion ar-lein. Mae’n rhaid i mi gyfaddef bod gwefan y gwesty ychydig yn hen ffasiwn, a dywedodd dyn o’r DMO efallai y gallan nhw helpu gydag ail-ddylunio’r wefan.

Hefyd, rydw i wedi cytuno yn barod i argraffu llyfrynnau newydd fel bod modd eu rhoi mewn dwy Ganolfan Groeso lleol sy’n cael eu rheoli gan y DMO.

Cefais fanylion trefnwr priodas lleol gan y dyn o’r DMO. Doeddwn i heb sylweddoli pa mor fawr yw’r busnes marchnad briodas. Mae gennym ni lyn hyfryd ar ein tir a fyddai’n lleoliad ffantastig ar gyfer lluniau priodas, ac rwy’n siŵr gall ein gweithwyr arlwyo ddatblygu ambell fwydlen benodol y gallwn ni eu cynnig.

Rydw i hefyd wedi derbyn enw rheolwr y cwrs golff lleol. Dydw i erioed wedi chwarae golff a does gen i ddim diddordeb. Fodd bynnag, maen nhw’n edrych am westy partner er mwyn cydweithio â nhw fel bod y clwb golff yn gallu cynnig gwyliau golff. Yn syml, drwy gydweithio, gallwn ni gynnig rowndiau o golff ac arhosiad dwy neu dair noson yn y gwesty am bris cynhwysfawr. Bydd y mwyafrif o’r busnes hyn ganol wythnos, a fyddai’n wych ar ein cyfer ni.

Rydw i wedi trefnu ail gyfarfod gyda’r rheolwr clwb golff er mwyn trafod sut gallwn ni ddatblygu rhyw fath o weithgaredd marchnata ar y cyd er mwyn hyrwyddo’r ddau fusnes ar yr un pryd. Hyrwyddo’r ddau fusnes drwy ein gwefannau yw’r peth mwyaf amlwg i’w wneud.

Wythnos ddiwethaf, mynychais frecwast busnes wedi’i drefnu gan y DMO. Roeddwn yn siarad gyda chigydd lleol a soniodd sut ei fod yn gwerthu mwy a mwy o gynnyrch cig gan ffermwyr lleol. Pan fyddwn yn cwrdd eto, rydw i angen siarad gydag ef am y posibilrwydd iddo gyflenwi ychydig o gig i mi.

Y darn olaf o newyddion da yw bod y DMO yn siarad â’r cyngor am welliannau i gylchfan a threfnu problemau parcio yn agos i leoliad y gwesty. Mae’n debyg bod nifer o fusnesau wedi sôn byddai system ffordd newydd a pharcio gwell yn dda i’w busnesau. Byddai’r cyngor ddim yn gwrando os mai fi yn unig fyddai’n cwyno.

Gweithgaredd

Fel y gwelwch, mae busnes Mr Iqbal yn debygol o weld buddion sylweddol o gydweithio gyda’r DMO a ffurfio perthnasoedd gyda sefydliadau twristiaeth.

Ar ôl darllen yr wybodaeth, atebwch y cwestiynau isod.

  • Amlinellwch gynnyrch Gwesty Burnham Oaks
  • Sut gall rhestru’r gwesty ar wefan y DMO gynyddu busnes yn y gwesty?
  • Beth yw ystyr y llythrennau DMO?
  • Ceisiwch adnabod dwy fantais sydd gan y gwesty ar gyfer cynnal priodasau.
  • Eglurwch sut gallai marchnata ar y cyd gyda’r clwb golff lleol fod yn fanteisiol i’r clwb golff a’r gwesty.
  • Eglurwch sut gallai’r datblygiadau posib a drafodwyd gyda’r DMO fod yn fuddiol i weithwyr y gwesty.