Datblygu Cyrchfannau i Dwristiaid yn y Deyrnas Unedig

MPA 3.2

Rhoi’r cyfan ar waith

Nawr, mae angen i chi ysgrifennu adroddiad sy’n egluro’r cydberthnasoedd rhwng y sefydliadau sy’n rhan o ddatblygiad twristiaeth mewn cyrchfan yn y DU rydych chi wedi’i ddewis. Astudiwch y disgrifiad o ddatblygiad twristiaeth yn Nulyn (Adnodd 7) er mwyn cael syniad o’r hyn ddylech chi anelu i’w greu.

Cyn i chi ddechrau ysgrifennu eich adroddiad, dylech chi ystyried yn ofalus yr ymchwil mae’n rhaid i chi ei gyflawni. Bydd angen i chi edrych ar amrywiaeth o wefannau sy’n berthnasol ar gyfer twristiaeth yn yr ardal rydych chi wedi’i ddewis. Ystyriwch y pwyntiau canlynol.

  • Yn aml, bydd gan y wefan adran (fel arfer ar y gwaelod) o’r enw ‘amdanon ni’  neu ‘pwy ydyn ni’. Bydd hyn yn eich helpu chi i ddeall mwy am y sefydliad a’i amcanion.
  • Ceisiwch weld os gallwch chi ddarganfod rhestr o bartneriaid y sefydliad. Bydd hynny yn eich helpu chi i egluro a rhoi enghreifftiau o’r cydberthnasoedd rhwng sefydliadau yn eich cyrchfan.
  • Does dim rheswm pam na allwch chi gopïo a gludio ambell i ddyfyniad, delwedd neu ddata os ydych chi’n credu eu bod nhw’n berthnasol; ond dylai mwyafrif o’r adroddiad fod yn waith personol! Gallwch chi wneud rhestr o’r gwefannau rydych chi wedi’u defnyddio.
  • Ceisiwch weld os gallwch chi ddarganfod cynllun twristiaeth ar gyfer y cyrchfan wedi’i gynhyrchu gan yr awdurdod lleol. Bydd rhai rhannau o’r cynllun yn berthnasol.

Dylech chi ganolbwyntio ar dri pheth:

  1. Rolau gwahanol sefydliadau sy’n rhan o ddatblygiad twristiaeth yn yr ardal rydych chi wedi’i dewis.
  2. Y cydberthnasoedd a’r partneriaethau rhwng y sefydliadau amrywiol.
  3. Eglurhad o sut mae’r sefydliadau hyn yn gweithio er mwyn cynyddu apêl y cyrchfan ar gyfer twristiaid.

Cofiwch, nid oes rhaid i brosiectau datblygiad twristiaeth fod ar raddfa fawr. Gallen nhw fod yn newidiadau bach a fydd yn gwneud gwahaniaeth i rai grwpiau o dwristiaid.

Wrth feddwl am brosiectau datblygiad twristiaeth efallai yr hoffech chi ysgrifennu amdanyn nhw, ystyriwch:

  • Datblygiadau sydd wedi digwydd yn y ddwy neu dair blynedd ddiwethaf sydd wedi cynyddu apêl y cyrchfan
  • Prosiectau datblygu sy’n digwydd yn y presennol
  • Prosiectau datblygu arfaethedig neu wedi’u cynllunio ar gyfer y dyfodol agos

Dylech chi sicrhau eich bod yn cynnwys gwybodaeth am wahanol gydrannau'r diwydiant twristiaeth sy’n gweithio yn eich cyrchfan a allai gynnwys:

  • Sefydliadau trafnidiaeth
  • Trefnwyr llety
  • Atyniadau
  • Byrddau a chanolfannau croeso
  • Awdurdodau lleol
  • Carfanau pwyso

Y ffordd orau i strwythuro eich adroddiad yw ysgrifennu dau neu dri pharagraff am sefydliadau ym mhob un o’r grwpiau a restrir uchod.

Pob lwc!