Datblygu Cyrchfannau i Dwristiaid yn y Deyrnas Unedig

MPA 4.1

Atyniadau

Cyflwyniad

Mae gan y rhan fwyaf o gyrchfannau rai atyniadau mawr ac ystod eang o atyniadau eraill. Er enghraifft, yn Llundain mae Palas Buckingham, Big Ben, y London Eye a Sgwâr Trafalgar, ond mae cannoedd o leoedd eraill i ymweld â hwy hefyd. Bydd rhai atyniadau am ddim, a bydd rhaid talu am eraill. Mae rhai atyniadau’n naturiol, rhai wedi’u hadeiladu’n bwrpasol a rhai wedi troi’n atyniadau dros amser.

Mae atyniadau mawr fel parciau hamdden yn costio miliynau o bunnoedd i’w hadeiladu ac ni chânt eu hadeiladu heblaw bod y cwmni dan sylw’n siŵr y bydd yr atyniad yn gwneud elw.

Mathau o dwrist

Twristiaid hamdden – os yw’r twrist yn ymweld â’r cyrchfan am y tro cyntaf, bydd am ymweld â’r atyniadau pwysicaf ac eraill hefyd, mae’n debyg. Efallai bydd y twristiaid hyn am ymweld ag amrywiaeth o atyniadau. 

Twristiaid busnes – ar y cyfan, nid ydynt yn teithio i ymweld ag atyniadau, ond efallai bydd amser ganddynt i ymweld ag atyniadau mawr na fuont iddynt o’r blaen.

Gwahanol oedrannau – mae twristiaid ieuengach tua diwedd eu harddegau a hŷn fel rheol yn mwynhau parciau hamdden, ond byddant yn ymweld ag atyniadau eraill hefyd. Bydd teuluoedd am ymweld ag atyniadau sy’n bodloni anghenion plant, p’un ai’n blant bach neu’n blant hŷn. Efallai bod parau’n fwy tebygol o ymweld ag atyniadau diwylliannol ac atyniadau naturiol. Bydd gan dwristiaid hŷn hefyd fwy o ddiddordeb mewn atyniadau naturiol a diwylliannol.

Gwahanol ddiwylliannau – byddant yn ymweld â’r atyniadau ‘rhaid gwneud’ mewn cyrchfan, mewn geiriau eraill, yr atyniadau enwocaf a’r rhai mwyaf diwylliannol.

Mathau o atyniad - Placeholder

Nid oes modd rhestru pob math o atyniad a’i osod mewn categori, ond dylai’r tabl isod roi canllaw.                      

Cynhyrchion a gwasanaethau

  • Gall bron pob atyniad ddatblygu ei wasanaethau i ymwelwyr fel cyfleusterau caffi/bwyty, siop gofroddion a thoiledau.           
  • Gallai atyniad hefyd wella ei fynediad a’i gyfleusterau parcio.   
  • Gellid hefyd gwella mynediad i ymwelwyr y mae gofyn cymorth ychwanegol arnynt. 
  • Gall llawer o atyniadau ddatblygu gwell gwybodaeth a chanllawiau am yr hyn y bydd yr ymwelydd yn ei weld a’r hyn y dylai edrych amdano. Gallai hyn fod ar ffurf hysbysfyrddau, dolen glyw neu ap sy’n rhoi gwybodaeth.                           
  • Gallai rhai atyniadau ddarparu profiad ymarferol o weithdy addysgiadol.              
  • Rhaid i atyniadau fel parciau hamdden ac atyniadau sy’n codi tâl tebyg fuddsoddi o hyd mewn cynhyrchion newydd, h.y. reidiau a fydd yn gwneud i gwsmeriaid eisiau dychwelyd.
  • Gall rhai atyniadau, e.e. amgueddfeydd, gynnal digwyddiadau ac arddangosfeydd arbennig a fydd yn denu twristiaid.
  • Gellid defnyddio atyniad fel lleoliad i ffilm neu gyfres deledu.

Hyrwyddo

  • Erbyn hyn, mae gan y rhan fwyaf o atyniadau wefannau i hyrwyddo eu cynhyrchion a’u gwasanaethau.
  • Gall tocynnau i lawer o atyniadau gael eu harchebu ymlaen llaw ar-lein, gan arbed arian i chi’n aml.
  • Mae llawer o atyniadau’n aelodau o’u bwrdd croeso lleol ac yn cael eu hyrwyddo drwy wefannau, ‘gwibdeithiau’ ac ati.
  • Bydd atyniadau’n hyrwyddo cyfleusterau a chynhyrchion newydd wrth iddynt gael eu datblygu.

Ymglymiad Sefydliadau

  • Bydd yr atyniadau hynny yr ymwelir â hwy ar deithiau wedi’u trefnu yn gweithio gyda gweithredwyr teithiau.
  • Bydd rhai atyniadau’n gweithio gyda thywysyddion teithiau.
  • Mae’n ddigon posibl y bydd atyniadau naturiol yn gweithio gyda’r sefydliadau sy’n rheoli Parciau Cenedlaethol ac ardaloedd eraill.
  • Bydd llawer o atyniadau’n gweithio mewn rhyw ffordd gyda byrddau croeso ac awdurdodau lleol ar amrywiaeth o faterion.
  • Bydd rhai atyniadau’n gweithio gyda rhiant-gwmnïau (e.e. Merlin) wrth gynllunio cynhyrchion newydd.
  • Bydd atyniadau naturiol yn gweithio gyda grwpiau gwirfoddol a chadwraeth i sicrhau na ddifrodir yr amgylchedd.      
  • Bydd atyniadau fel plastai yn gweithio gyda grwpiau cadwraeth i warchod yr adeiladau a’u cynnwys.               

Cyllid

  • Mae llawer o atyniadau a adeiladwyd yn bwrpasol yn rhan o’r sector preifat a bydd unrhyw ddatblygiad yn digwydd yn sgil gwneud elw neu gael benthyciad gan y banc.
  • Rheolir atyniadau fel amgueddfeydd ac orielau gan lywodraeth ganolog neu leol ac fe’u rheolir drwy grant.          
  • Prynwyd rhai plastai gan sefydliadau fel yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, sy’n dibynnu ar ffioedd aelodaeth a rhoddion.         
  • Ariennir y gwaith o reoli rhai atyniadau naturiol gan y Parciau Cenedlaethol ac ati lle maent wedi’u lleoli.         

 

Nodwch sut y gall yr atyniadau yn eich cyrchfan dewisol gynyddu apêl y cyrchfan i wahanol fathau o dwrist.