Rydych bellach wedi ymchwilio i egwyddorion gwasanaeth cwsmeriaid mewn sefydliadau twristiaeth mewn nifer o ffyrdd, a dylech fod yn deall llawer mwy am wasanaeth cwsmeriaid a pham mae’n bwysig i sicrhau bod cwsmeriaid yn cael profiad da.
Gallwch grynhoi’r hyn a ddysgoch drwy gymhwyso eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o egwyddorion gwasanaeth cwsmeriaid i un sefydliad twristiaeth.
Gweithgaredd
Dewiswch sefydliad yr ydych wedi’i astudio ac rydych yn gyfarwydd ag ef.
Ystyriwch bob un o’r egwyddorion gwasanaeth cwsmeriaid a grybwyllwyd yn yr uned a disgrifiwch yn llawn sut mae’ch sefydliad dethol yn eu cynnwys.
Defnyddiwch y cyflwyniad PowerPoint (Adnodd 11) i helpu gyda’ch adroddiad.
Efallai y gallwch ychwanegu gwybodaeth bellach i ddisgrifio egwyddorion gwasanaeth cwsmeriaid yn llawnach. Cofiwch gymhwyso egwyddorion gwasanaeth cwsmeriaid i’ch sefydliad dethol.
Cynnwys y gellir ei lawrlwytho
- Word (.docx): U1-1.1-Adnodd12.docx