Llwyddo ym maes ‘Profiad y Cwsmer’

MPA 1.3 Disgrifiwch sut mae gwasanaeth cwsmeriaid yn cael ei ddarparu’n wahanol ar draws gwahanol gyfryngau

Felly pam mae’r ffôn yn bwysig o hyd?

A thechnoleg y ffonau clyfar a’r rhyngrwyd yn cael eu defnyddio mwyfwy, pam allai fod angen i sefydliadau twristiaeth a’u cwsmeriaid gael sgwrs ffôn?      

Mae llawer o resymau. 

Gweithgaredd

Gan ddefnyddio’r syniadau yn y diagram isod, eglurwch yn llawn pam allai fod angen i sefydliadau twristiaeth a’u cwsmeriaid ddefnyddio ffôn ac awgrymwch sut gellir ystyried bod hwn yn wasanaeth cwsmeriaid da.

  • Nid pawb sy’n berchen ar gyfrifiadur neu ffôn clyfar.      

  • Mae rhai cwsmeriaid yn hoffi clywed llais dynol.

  • Efallai bydd gan gwsmeriaid anghenion arbennig yr hoffent eu trafod.

  • Efallai bydd gofyn gwybodaeth ychwanegol ar bobl.

  • Efallai bydd gan gwsmeriaid broblem yr hoffent ei thrafod.

  • Efallai bydd cwsmeriaid am wneud cwyn.           

  • Efallai bydd cwsmer am newid cynllun ar y funud olaf neu efallai ei fod wedi’i oedi.

  • Efallai bydd cwsmer am wirio gwybodaeth sydd ar wefan.

  • Efallai bydd y cysylltiad â’r rhyngrwyd yn cael ei golli.

  • Ni chafwyd yr wybodaeth gan gwsmer neu mae wedi’i cholli.

  • Efallai bydd angen i’r sefydliad gysylltu â’r cwsmer mewn argyfwng.

  • Efallai bydd y cwsmer yn gofyn am bris arbennig neu ddisgownt.