Llwyddo ym maes ‘Profiad y Cwsmer’

MPA 2.1 Disgrifiwch anghenion gwahanol fathau o gwsmer

Gwahanol grwpiau oedran

Mae llawer o sefydliadau twristiaeth yn gwybod bod anghenion eu cwsmeriaid yn amrywio yn ôl eu hoedran.

Nid yw bob amser yn hawdd grwpio cwsmeriaid sefydliadau twristiaeth. Fodd bynnag, mae’r rhestr isod yn rhoi syniad o’r gwahanol grwpiau oedran, sef:

  • Babanod
  • Plant bach
  • Plant ifanc  
  • Plant hŷn/arddegau cynnar  
  • Arddegau hŷn 
  • Oedolion ifanc
  • Oedolion canol oed
  • Oedolion hŷn

Gweithgaredd

Ceir isod ddisgrifiadau cyffredinol o’r gweithgareddau twristiaeth y gallai pobl mewn grwpiau oedran gwahanol fod yn cymryd rhan ynddynt. Rhowch gynnig ar baru’r disgrifiad â’r grŵp oedran uchod.