Llwyddo ym maes ‘Profiad y Cwsmer’

MPA 2.2 Eglurwch sut mae sefydliadau twristiaeth yn bodloni disgwyliadau gwahanol fathau o gwsmer

Bodloni disgwyliadau

Yn aml iawn, bydd twristiaid yn prynu cynnyrch twristiaeth heb ei weld o gwbl. Mae hyn yn wir am wyliau neu noson o lety.                                            

Talodd pob un o’r twristiaid isod i aros mewn hostel yn Nwyrain Llundain. Fel y gwelwch, roedd yr adolygiadau a roesant ar Trip Advisor yn wahanol iawn. Bu rhai ohonynt yn rhoi 1 seren i’r llety, ac eraill yn rhoi 5 seren iddo. (Adolygiadau go iawn ydyn nhw!)

Gweithgaredd

Darllenwch y 6 adolygiad ac yna, ar gyfer pob un, defnyddiwch y ffrâm ysgrifennu i ysgrifennu brawddeg neu ddwy’n egluro sut cafodd disgwyliadau’r twrist eu bodloni neu beidio gan yr hostel.

Yn ôl Abby: Ofnadwy *

Wel, yn gyntaf, mae’r hostel hon yn eithaf pell o ganol Llundain. Ond nid dyna’r peth gwaethaf. Nid yw’n cael ei chynnal a’i chadw o gwbl. Mae tyllau yn y waliau, mae’r  paent yn malurio, mae’n amlwg bod popeth yn dadfeilio, ni ddefnyddir arian o gwbl i gynnal y strwythur! Bach iawn oedd yr ystafelloedd, a phob un o’r loceri wedi torri. Mae’r ystafell gyffredin yn fach iawn hefyd a does dim i ailgynhesu pryd bwyd, dim ond ychydig fyrddau a chadeiriau a dyna’r cyfan! Mae’r un yn wir am yr ystafelloedd gwely, dim ond y gwelyau a’r loceri, dim bwrdd na dim. Nid oedd y gwres yn gweithio ac roedd yn ofnadwy o oer. Mae’r ystafelloedd ymolchi cyffredin yn hollol annymunol am fod rhai pobl yn cysgu yn y toiledau!

Felly, nid oeddwn i, na’r bobl yn fy nghwmni, yn fodlon ar y lle o gwbl, er gwaethaf y brecwast am ddim a’r pris isel.                          

 

Yn ôl John: Lle braf ****

Roedd y pris am yr ystafell yn iawn. Roedd y derbynnydd pan gyrhaeddais yn barod iawn ei gymwynas, a’r broses dderbyn yn gyflym. Roeddem wrth ein bodd gyda’r awyrgylch yn yr hostel. Roedd pobl yn gyfeillgar, a phopeth yn lân. Byddaf yn dychwelyd yma.                                

 

Yn ôl Adil a Jem: Cyffyrddus gyda bar ****

Roedd yr ystafelloedd ychydig yn boeth, er bod y ffenestri ar agor ym mis Ebrill. Ond roedd cysylltiad wi-fi da ac roedd y bar i lawr y grisiau yn lle braf i ymlacio a bwyta. Mae’n eithaf pell o holl olygfeydd Llundain, ond mae stryd gerllaw gyda nifer o leoedd rhad iawn i gael pryd ar glud.                  

 

Yn ôl Sarah: Dewis Hostel am Amser Byr yn unig ar Ymweliad â Llundain!!! **

Y peth gorau yw mynd ar y trên o orsaf Bank (tanddaearol). O dramor, os ydych yn cyrraedd ar drên Eurostar. Gan dybio eich bod yn dod o orsaf King’s Cross, St. Pancreas. Ond i bobl sydd am wyliau penwythnos neu ychydig ddiwrnodau yn ystod yr wythnos, gallai fod yn ddewis da i chi? Mae’r hostel wedi’i chyfuno â Thafarn. Mae’n eithaf bach, a grisiau digon cul i gyrraedd eich Ystafelloedd. Ystafell gyffredin fach iawn, iawn i’w rhannu gyda’r holl westeion. Dim cyfleusterau cegin i wneud eich prydau ysgafn. Dim ond microdon a thegell sydd ar gael i’w defnyddio. Mae brecwast cyfandirol am ddim wedi’i gynnwys yn eich archeb tra byddwch yno (7.30 i 9.00am). Mae’r gwelyau’n weddol. Ond mae’r cawodydd a’r toiledau ar wahanol LORIAU. Nid yw’n addas i bawb.

 

Yn ôl Farah: Hostel Weddol **

Roedd yr hostel yn iawn ar y cyfan. Mae’r pris yn rhad yn Llundain ac roedd y staff yn gyfeillgar. Yr anfantais yw bod y lle allan o ganol y dref. Dydw i ddim yn teimlo’n ddiogel yn crwydro gyda’r nos. Mae’r bobl sy’n rhannu fy ystafell yn glên a chyfeillgar, er bod rhai o’r dynion ychydig yn annifyr.

 

Yn ôl Joana: Amgylchedd cyffyrddus *****

Am y pris, mae popeth yn lân iawn, mae’r staff yn gyfeillgar a llawn gwybodaeth. Cefais brofiad da iawn yn yr hostel hon, mae’r brecwast yn ddigon da, lleoliad da wrth ymyl y tanlwybr a’r safle bws, rwyf wir yn argymell y lle hwn.