Dylech yn awr fod yn barod i ymweld â’ch sefydliad twristiaeth dewisol i gasglu gwybodaeth am ansawdd profiad y cwsmer, gan ddefnyddio’r offer ymchwilio a gynlluniwyd gennych.
Mwyaf yr offerynnau ymchwil sydd gennych, gorau’ch gobeithion o lunio adroddiad da am ansawdd y gwasanaeth cwsmeriaid.
Cynllunio’r holiadur
- A ydych wedi cynllunio holiadur sy’n cynnwys nifer o gwestiynau agored a chaeedig?
- A oes digon o le i chi ysgrifennu sylwadau y bydd pobl yn eu gwneud mewn ymateb i gwestiynau agored?
- A ydych yn siŵr nad oes unrhyw gamsillafu na chamgymeriadau atalnodi?
- A wyddoch chi faint o bobl y byddwch yn eu holi gyda’ch holiadur? Sawl un fyddwch chi’n ei holi’n bersonol?
- A ydych yn siŵr y gallwch gofnodi gwybodaeth bersonol heb ofyn cwestiynau personol i bobl?
- A wyddoch chi sut byddwch yn defnyddio’r wybodaeth a gewch o’ch arolwg?
- A yw’ch holiadur yn cynnwys unrhyw gwestiynau arolwg canfyddiad?
- A wyddoch sut byddwch yn defnyddio canlyniadau arolwg eich holiadur?
Cwsmer cudd
- A ydych yn siŵr y bydd eich rhestr wirio cwsmer cudd yn rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i ymchwilio i ansawdd profiad y cwsmer yn eich sefydliad dewisol?
- A wyddoch chi ym mha ardaloedd neu adrannau o’ch sefydliad y byddwch yn cynnal eich arolwg cwsmer cudd?
- A wyddoch chi beth fydd aelodau eraill o’ch grŵp yn ei wneud ar yr un pryd?
- A ydy’r cwestiynau yn eich arolwg cwsmer cudd yn mynnu ymatebion meintiol (rhif) neu ansoddol (barn)?
- A wyddoch chi sut byddwch yn coladu canlyniadau eich arolwg cwsmer cudd?
Cyfweliad
- A wyddoch chi â phwy y byddwch yn cyfweld?
- A fyddwch yn cyfweld ag un person neu grŵp (grŵp ffocws)?
- A fyddwch yn cyfweld ar eich pen eich hun neu fel aelod o dîm?
- A ydych wedi ymchwilio i rôl y sawl/y bobl y byddwch yn cyfweld ag ef/hi/nhw?
- A ydych wedi meddwl am y mathau o gwestiwn y byddwch yn eu gofyn, sef, agored, caeedig, dilynol neu brocio?
- A ydych wedi ymarfer y cwestiynau y byddwch yn eu gofyn?
- Sut byddwch yn cofnodi’r ymatebion i’r cwestiynau? A fyddwch chi’n nodi’r atebion neu’n recordio’r ymatebion?
- A ydych wedi sicrhau eich bod yn gofyn y cwestiynau cywir?
Cyfrifiadau Cerddwyr
- A ydych wedi cynllunio ffurflen i gofnodi eich cyfrifiadau cerddwyr?
- A wyddoch ymhle fyddwch yn cynnal eich cyfrifiadau cerddwyr?
- A wyddoch sut byddwch yn coladu canlyniadau’ch cyfrifiadau cerddwyr?
Map anodedig
- A oes gennych gopi o gynllun neu safle’r sefydliad rydych yn ei astudio?
- Sut ydych am gofnodi gwybodaeth y gellid ei rhoi ar y map neu o’i gwmpas?
Ffotograffau
- A fyddwch yn gallu tynnu ffotograffau wrth ymweld â’ch sefydliad dewisol?
- A wyddoch o beth y gallai fod yn briodol tynnu ffotograffau?
- A fyddwch yn gallu lawrlwytho eich ffotograffau a’u gosod yn yr adroddiad a luniwch?
- A fyddwch yn gallu anodi eich ffotograffau i nodi ansawdd y gwasanaeth cwsmeriaid yn eich sefydliad dewisol?
Ymchwil eilaidd
- A ydych wedi gwneud ymchwil eilaidd i’ch sefydliad dewisol, gan ddefnyddio amrywiaeth o wefannau?
- A ydych wedi creu log o’r safleoedd yr ymweloch â hwy a’r wybodaeth a gawsoch ohonynt?
- A wyddoch pa rai o’r safleoedd yr ymchwilioch iddynt oedd yn fwyaf defnyddiol a pha rai oedd yn llai defnyddiol?
- A yw’ch ymchwil wedi’ch helpu i ddeall mwy am y sefydliad rydych yn ei astudio ac ansawdd profiad y cwsmer y mae’n ei ddarparu?
- A wyddoch sut byddwch yn defnyddio’r wybodaeth hon yn eich adroddiad?