Mae siopa cudd neu fod yn gwsmer cudd yn fodd o gasglu gwybodaeth am brofiad y cwsmer, a hwnnw’n cael ei ddefnyddio mewn amrywiaeth o ddiwydiannau, nid twristiaeth yn unig.
Y tro nesaf yr ewch i siopa am ddilledyn, beth am weld sawl un o’r cwestiynau yn y rhestr wirio isod y gallwch eu hateb.
- A gawsoch eich cydnabod gan gynorthwyydd o fewn 30 eiliad o fynd i mewn i’r siop?
- Pan gawsoch eich cyfarch, beth a ddywedwyd?
- A wenodd y cynorthwyydd?
- A gynigiodd y cynorthwyydd eich helpu?
- A gynigiodd y cynorthwyydd eitem ychwanegol i chi?
- A gawsoch holl sylw’r cynorthwyydd?
- A oedd tôn hwyliog a chyfeillgar gan yr holl gynorthwywyr y daethoch i gysylltiad â nhw?
- A oedd unrhyw gynorthwywyr yn anghwrtais neu’n ddigywilydd?
- A wnaeth unrhyw gynorthwyydd roi gwasanaeth uwchlaw’r disgwyl?
- A roddodd y cynorthwyydd sylw dymunol i gloi (“Mwynhewch eich diwrnod,” “Diolch am siopa gyda ni,” “Diolch”, ac ati)?
- A wnaeth yr ariannwr eich cyfarch/cydnabod y foment y cyrhaeddoch y cownter?
- A ofynnodd yr ariannwr a oeddech wedi dod o hyd i bopeth?
- A ddiolchodd yr ariannwr i chi ar ddiwedd eich trafodyn?
- A oedd pob eitem yr oedd arnoch eisiau ei phrynu ar gael?
Faint o amser a gymerodd eich trafodyn o’r amser i chi gyrraedd
Gweithgaredd
Crynhowch eich profiad o’r tro diwethaf y prynoch chi ddillad. A oedd eich profiad fel cwsmer yn dda neu’n wael? Eglurwch pam.
Cynnwys y gellir ei lawrlwytho
- Word (.docx): U1-3.1-Adnodd4.docx