Gweithgaredd
Mewn grwpiau o dri neu bedwar, ymchwiliwch y sefydliad VisitBritain, gwasanaeth cefnogi mwyaf y DU.
- Beth mae’r gwasanaeth yn ei gynnig?
- Sut mae’n hyrwyddo’r DU?
Yna, edrychwch ar eich bwrdd twristiaeth lleol neu ranbarthol a’i gymharu gyda’ch canfyddiadau am VisitBritain.
- Sut maen nhw’n debyg a sut maen nhw’n wahanol?
- Rhannwch eich canfyddiadau gyda’r dosbarth.
Gwnewch nodiadau am ganfyddiadau’r grwpiau eraill os ydynt yn cynnig unrhyw wybodaeth sy’n wahanol i’ch gwybodaeth chi.