Dull Cyflwyno

Ffactorau ariannol

Wrth ystyried dylanwadau ariannol, mae’n rhaid i chi ddeall bod twristiaid angen ystyried cost wirioneddol y gwyliau neu ymweliad dewisol. Mae twristiaid yn ystyried a oes gan y cyrchfan enw da o fod yn lle rhad i aros neu ymweld ag ef, neu a yw’n gyrchfan drud? Dylech chi feddwl fel hyn; os yw twrist mewn sefyllfa ariannol dda, ni fyddai gwyliau drud yn broblem, ond byddai gan deulu o 5 ag incwm gwario cyfyngedig syniadau eraill.

Ystyriaeth ariannol arall yw at bwy mae’r cyrchfan yn apelio; a yw’n gyrchfan marchnad dorfol neu’n gyrchfan pen ucha’r farchnad. Yn gyffredinol, mae cyrchfannau pen ucha’r farchnad yn atynnu pobl sydd gyda mwy o incwm gwario. Mae cyrchfannau marchnad dorfol fel arfer yn atynnu'r rheini sydd gyda llai o incwm gwario a llai o hyblygrwydd o ran amser, e.e. teuluoedd sy’n cael eu rheoli gan amserau gwyliau ysgol a llai o incwm, o bosib.

Yn olaf, bydd yn rhaid i chi ystyried llety; cost y llety yn benodol, gan fod hwn hefyd yn ffactor ariannol mae twristiaid yn ei ystyried cyn gwneud penderfyniadau terfynol. Heddiw, mae yna niferoedd helaeth o letyau ar gael, ac mae nifer o wefannau archebu ar-lein, fel Booking.com, Expedia a Traveloctiy yn cynnig dewis helaeth, fel arfer gyda phrisiau cystadleuol. Dylech chi werthfawrogi nad oes cymaint o dwristiaid yn dibynnu ar wyliau pecyn o asiantaeth gwyliau heddiw, ond yn hytrach, maen nhw’n hoff o archwilio’r farchnad i ddarganfod llety sy’n addas ar gyfer eu cyllideb. Mae hyn yn gallu amrywio o Wely a Brecwast i westyau moethus 5*, neu hyd yn oed 6*.

Faint mae’r gwyliau yn mynd i gostio?

Bydd cost gwyliau yn chwarae rôl allweddol ym mhenderfyniadau terfynol bydd llawer o dwristiaid yn eu gwneud.

Mae’n rhaid i lawer o dwristiaid feddwl am gost y gwyliau neu’r ymweliad, yn cynnwys

  • Ydw i’n gallu fforddio mynd?
  • A fydd gen i ddigon o arian i’w wario pan fydda i’n cyrraedd yno?
  • A fydd y cyrchfan yn rhy ddrud ar fy nghyfer i?
  • Oes opsiynau rhatach ar gael?