Dull Cyflwyno

Partneriaethau Visit Cambridge

Mae ‘Great Days Out In & Around Cambridge’ yn grŵp o tua 14 o atyniadau sydd wedi ffurfio partneriaeth ac yn defnyddio marchnata ar y cyd drwy wefan Visit Cambridge, ble maen nhw wedi talu tâl aelodaeth ar gyfer hysbysebu.

Mae’r 14 atyniad yn wahanol ac yn dangos amrywiaeth eang o atyniadau yn y DU sy’n apelio at wahanol fathau o ymwelwyr. Er enghraifft:

  • Mae Wicken Fen yn warchodfa bywyd gwyllt dan berchenogaeth Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
  • Mae Canolfan Wyddoniaeth Caergrawnt yn cael ei chefnogi gan nifer o gwmnïau masnachol a sefydliadau eraill
  • Mae Eglwys Gadeiriol Ely yn atyniad hanesyddol sydd yn rhan o Eglwys Lloegr
  • Mae ‘Discover Newmarket’ yn bennaf gysylltiedig â darparu teithiau tywysedig o’r dref a’r ardal gyfagos
  • Mae’r Fynwent Americanaidd yn fynwent fawr ble mae cyrff miloedd o filwyr, a laddwyd yn yr Ail Ryfel Byd, wedi’u claddu

Nid yw’r mwyafrif o’r atyniadau yn cystadlu’n uniongyrchol gyda’i gilydd. Mae’n eithaf posib i ymweld â dau neu dri o’r atyniadau mewn un diwrnod. Mae rheolwyr yr atyniadau yn teimlo drwy ffurfio partneriaeth a marchnata’u cynhyrchion a gwasanaethau drwy wefan Visit Cambrdige, eu bod nhw’n debygol o weld nifer uwch o ymwelwyr.