Mathau o dwrist
Twristiaid hamdden – sy’n chwilio am werth am arian. Mae rhai ohonynt yn barod i dalu am lety o ansawdd, ac mae eraill yn brinnach eu harian. Mae ar eraill eisiau llety sy’n agos i’r gweithgareddau y byddant yn cymryd rhan ynddynt yn ystod eu gwyliau.
Twristiaid busnes – sydd am drefnu eu llety’n hawdd ac sydd am wybod beth yn union y maent yn ei drefnu; dyna pam y mae’n well gan lawer o dwristiaid busnes aros mewn gwestyau cadwyn. Efallai bydd eisiau cyfleusterau cynadledda a’r dechnoleg ddiweddaraf ar y twristiaid hyn.
Gwahanol oedrannau – fel rheol, bydd llai o arian gan barau ieuengach ac efallai byddant yn fodlon rhoi cynnig ar lety Airbnb neu hostel. Bydd ar deuluoedd eisiau diogelwch a chyfleusterau da i’w plant, beth bynnag y bo’u hoedran. Mae parau’n tueddu i chwilio am ansawdd ac amgylchedd tawel/dymunol. Mae ar bobl hŷn eisiau bod yn agos i amwynderau ac efallai bydd angen cymorth arbennig arnynt.
Gwahanol ddiwylliannau – efallai bydd gofyn bwydydd penodol arnynt am resymau crefyddol. Efallai hefyd y byddant yn gwerthfawrogi cael gwybodaeth ar gael mewn gwahanol ieithoedd.