Dull Cyflwyno

Defnyddio gwefan

Gweithgaredd

Dewiswch wefan ar gyfer gwesty. Ni ddylai fod yn westy sy’n agos i’r lle rydych chi’n byw.

Ymchwiliwch i wefan y gwesty gan ystyried pob un o’r adrannau yn y tabl isod.       

Ar gyfer pob adran, nodwch un neu ddwy frawddeg o nodiadau i egluro pa mor ddefnyddiol fu’r wefan i gwsmeriaid a allai fod yn ystyried aros yn y gwesty.      

Ar gyfer pob adran, rhowch sgôr allan o 10, gyda 10 yn golygu ardderchog ac 1 yn golygu gwael.

Pan fyddwch wedi gorffen, cymharwch eich nodiadau a’ch sgoriau â’ch cyd-ddisgyblion.