Gweithgaredd
Yn y tabl isod, mae 10 peth y gallai cyflogai ofyn amdanynt neu sôn amdanynt wrth gwsmer rheolaidd sefydliad. Ar gyfer pob un o’r 10 datganiad, rhowch sgôr allan o 5 ar gyfer pa mor bwysig y gallai fod i’r cwsmer.
Pan fyddwch wedi gwneud eich penderfyniadau, trafodwch eich atebion gyda’ch cyd-ddisgyblion.
- Cyfarch y cwsmer yn briodol.
- Rhoi gwybod iddo am unrhyw broblemau ar y dydd.
- Ei atgoffa am fuddion y cynllun aelodaeth neu’r cynllun cerdyn ffyddlondeb y mae’n aelod ohono.
- Gofyn iddo a hoffai archebu gwasanaethau ychwanegol.
- Ei adnabod a’i gyfarch yn ôl ei enw.
- Gofyn iddo beth yw ei gynlluniau am ei ymweliad/ arhosiad.
- Rhoi gwybod iddo am unrhyw gynigion neu wasanaethau newydd.
- Gofyn sut hwyl sydd arno.
- Holi am ei ffrindiau neu deulu.
- Holi a hoffai ddiweddaru neu adnewyddu ei aelodaeth.