Gweithgaredd
Mwynhewch wrth ymchwilio.
Mewn grwpiau o dri neu bedwar, dewiswch un o’r atyniadau o’r rhestr, ac ymchwiliwch yr atyniad dewisol mewn mwy o fanylder gan ddefnyddio’r rhyngrwyd.
Penderfynwch pa swydd sydd gan bob aelod er mwyn cyfrannu i’r ymchwil a’r cyflwyniad, golyga hyn bod gan bawb swydd bendant.
- Tŵr Llundain
- Llyn Bala
- Coedwig Sherwood
- London Eye
- Castell Caerdydd
- Bae Barafundle
- Alton Towers
- Canolfan Bywyd y môr
- Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru
- Cyflwynwch eich canfyddiadau i’r dosbarth.
Ystyriwch y cwestiynau canlynol:
- Pwy sydd berchen ar yr atyniad?
- Ble mae’r atyniad wedi’i leoli?
- Faint o ymwelwyr sy’n cael eu hatynnu i’r atyniad bob blwyddyn?
- Faint o bobl sy’n cael eu cyflogi (os o gwbl)?
- A yw’r atyniad yn dymhorol? Hynny yw, ydy’r atyniad ar agor yn ystod cyfnod penodol o’r flwyddyn?
- Beth mae’n ei gynnig i dwristiaid?
Ceisiwch ychwanegu ffeithiau diddorol eich hunain.
Gallwch ddefnyddio PowerPoint i gyflwyno, neu crëwch boster addysgiadol a thrafodwch y poster gyda’r dosbarth.