Trefnydd Teithiau
Mae’r trefnydd teithiau yn cynhyrchu’r trip, yn ei greu. Maen nhw’n creu’r cynnyrch drwy gyfuno’r drafnidiaeth a’r llety o leiaf chwe mis cyn y tymor twristiaid (mae yna 2 dymor: Hydref/Gaeaf o Dachwedd – Ebrill a Gwanwyn/Haf o Fai – Hydref). Maen nhw’n prynu seddau ar awyrennau ac ystafelloedd mewn gwestyau. Maen nhw’n cyfrifo pris y trip (teithio a’r arhosiad wedi’u cynnwys) drwy ychwanegu eu helw a phris y llyfryn, sydd wedyn yn cael ei roi at ei gilydd fel eu bod yn gallu cynnig y trip i asiantaethau. Gallan nhw hefyd ei gynnig yn uniongyrchol drwy eu gwefan. Ar gyfer gwyliau mwy cymhleth, fel taith saffari o amgylch Asia fel enghraifft, bydd yna Drefnwyr Teithiau arbenigol.
O ganlyniad i’r cynnydd mewn archebu annibynnol ar-lein gyda gwefannau fel Last minute.com, Expedia a gwefannau Travelocity, mae nifer o asiantaethau teithio wedi cyfuno gyda threfnwyr teithiau er mwyn cynnig gwasanaeth lawn i’w cwsmeriaid.
Mae cwsmeriaid yn gallu prynu amrywiaeth o gynhyrchion o’r asiantaeth deithio / trefnydd teithiau sy’n cynnwys gwyliau a theithiau awyren, yswiriant teithio, llogi car, teithio gyda bws neu drên, cyfnewid arian ac weithiau, tocynnau theatr.