Gweithgaredd 4
Darllenwch yr wybodaeth isod am westy yng ngwlad Groeg sydd wedi derbyn gwobr am ei arferion amgylcheddol.
Mae’r Castelli yn westy dymunol traddodiadol gyda chyfleusterau modern. Mae’r gwyrddni hardd sy’n amgylchynu’r gwesty yn cyfrannu at y ddelwedd unigryw. Bydd croeso cynnes yn disgwyl amdanoch chi yn y Castelli.
Wedi’i leoli yn Agios, lleoliad tawel ym mae Laganas ble mae crwbanod y môr yn dodwy eu hwyau, mae’r gwesty teuluol hwn yn cynnwys ardal gyda phwll nofio â bar byrbrydau sy’n cynnig prydau blasus a meze Groegaidd. Mae bwffe brecwast yn cynnwys cacennau cartref, wedi’u gwneud gan ddefnyddio wyau organig o fferm bersonol y gwesty. Mae yna far cyntedd a chornel rhyngrwyd.
Mae’r gwesty yn gweithio tuag at un gôl benodol: creu profiad gwyliau cofiadwy.
- Llogi beic a marchogaeth trefnedig ar lwybrau pwrpasol
- Gwerthfawrogi cwsmeriaid sy’n dychwelyd
- Lleoliad arbennig
- Yn defnyddio cynnyrch yn uniongyrchol o fferm bersonol y gwesty
- Cyfle i ymweld â chrwbanod y môr heb amharu ar yr amgylchedd
- Gwasanaeth personol gyda dim ond 54 ystafell
Wedi darllen yr wybodaeth, awgrymwch ddau amcan amgylcheddol a allai gael eu defnyddio gan y gwesty.