Dylech chi nawr ddeall bod datblygiad twristiaeth yn digwydd drwy’r amser mewn llawer o gyrchfannau. Mae pob datblygiad yn gwneud y cyrchfan ychydig yn fwy deniadol i wahanol fathau o dwristiaid, a’u hannog i ymweld â’r cyrchfan.
Mae rhai prosiectau twristiaeth yn costio miliynau o bunnoedd, mae rhai yn cynnwys agor busnes twristiaeth newydd, ac mae rhai yn derbyn sylw drwy lwc pur, e.e. cael eu defnyddio ar gyfer rhaglen deledu. Er enghraifft, mae’r cyrchfannau sy’n cael eu cynnwys yn ffilmiau Harry Potter a’r gyfres Game of Thrones wedi gweld cynnydd yn niferoedd ymwelwyr sydd â diddordeb yn y ffilmiau a’r rhaglenni teledu.
Mae’r adran hon o’r uned yn cynnwys meddwl am ddatblygiadau sydd wedi digwydd yn ddiweddar neu sy’n digwydd yn y presennol mewn cyrchfannau twristiaeth.
Mae’r delweddau uchod yn lleoliadau ffilmio ar gyfer y gyfres Game of Thrones, sydd wedi cynyddu twristiaeth yng Ngogledd Iwerddon.