Rydych bellach wedi ystyried y ffyrdd y mae sefydliadau twristiaeth yn darparu gwasanaeth cwsmeriaid ar draws gwahanol gyfryngau.
Bydd angen bellach i chi ddisgrifio mor fanwl â phosibl sut mae un sefydliad twristiaeth yn gwneud hyn.
Gallwch ddefnyddio’r wybodaeth a lunioch ar gyfer yr ymarferion eraill ac yn benodol y nodiadau gludiog a wnaethoch ar y tri hysbysfwrdd yn y gweithgaredd diwethaf.
Efallai hefyd yr ystyriwch gymharu’r ffyrdd y mae’ch sefydliad dethol yn darparu gwasanaeth cwsmeriaid ar draws gwahanol gyfryngau. Gallai’r geiriau a’r ymadroddion yn y blwch isod eich helpu i wneud hyn.