Yn aml, bydd y bobl sy’n gweithio yn y diwydiant twristiaeth yn darparu gwasanaeth i bobl sy’n llawer mwy cyfoethog na hwy. Gall rhai pobl fforddio talu am yr ansawdd gorau un; hedfan mewn sedd dosbarth cyntaf, mynd i’r cyrchfannau gwyliau mwyaf egsotig ac aros yn y gwestyau drutaf.