Cwestiynau penagored a chaeedig
Gellir cynllunio holiaduron gan ddefnyddio cwestiynau agored a chaeedig. Yn gyffredinol, mae cwestiynau caeedig naill ai’n gofyn am un o ddau ateb, fel ‘do’ neu ‘naddo’, neu ymateb union.
Er enghraifft:
- A aethoch chi i’r sinema y penwythnos hwn? Do neu naddo
- Sawl gwaith fuoch chi i’r sinema yn ystod y mis diwethaf?
Cynllunnircwestiynau agored i gael barn pobl ac fel arfer mae gofyn ymateb hirach arnynt.
Er enghraifft:
- Beth yw’ch barn chi am yr amrywiaeth o luniaeth sydd ar gael yn eich sinema leol?
- Beth oedd eich barn chi am y ffilm ddiwethaf a welsoch yn eich sinema leol?
Yn amlwg, mae’n haws cofnodi gwybodaeth a gafwyd o gwestiynau caeedig na chwestiynau agored. Cofiwch hyn pan fyddwch yn cynllunio holiaduron!