Llwyddo ym maes ‘Profiad y Cwsmer’

MPA 3.1 Cynllunio offer ymchwilio

Holiaduron

‘Cyfres o gwestiynau a drefnwyd ymlaen llaw yw holiadur, wedi’i gynllunio i gael gwybodaeth gan bobl amdanynt eu hunain ac am eu barn.’

Gellir defnyddio holiaduron er mwyn:

  • Cael gwybodaeth am bobl sy’n ymweld â sefydliadau twristiaeth  
  • Darganfod gwybodaeth am eu barn, eu hagweddau a’u safbwyntiau am y sefydliad twristiaeth y maent yn ymweld ag ef.

Cwestiynau penagored a chaeedig

Gellir cynllunio holiaduron gan ddefnyddio cwestiynau agored a chaeedig. Yn gyffredinol, mae cwestiynau caeedig naill ai’n gofyn am un o ddau ateb, fel ‘do’ neu ‘naddo’, neu ymateb union.

Er enghraifft:

  1. A aethoch chi i’r sinema y penwythnos hwn? Do neu naddo
  2. Sawl gwaith fuoch chi i’r sinema yn ystod y mis diwethaf?

Cynllunnircwestiynau agored i gael barn pobl ac fel arfer mae gofyn ymateb hirach arnynt.

Er enghraifft:

  1. Beth yw’ch barn chi am yr amrywiaeth o luniaeth sydd ar gael yn eich sinema leol?
  2. Beth oedd eich barn chi am y ffilm ddiwethaf a welsoch yn eich sinema leol?

Yn amlwg, mae’n haws cofnodi gwybodaeth a gafwyd o gwestiynau caeedig na chwestiynau agored. Cofiwch hyn pan fyddwch yn cynllunio holiaduron!

Gweithgaredd 1

Cynlluniwch holiadur i’w ddefnyddio gyda’ch cyd-ddisgyblion i gael gwybod beth wnaethon nhw yn ystod y penwythnos diwethaf. Defnyddiwch 4 cwestiwn agored a 4 cwestiwn caeedig. Trafodwch y canlyniadau.

Gwybodaeth bersonol

Pan ofynnir i bobl ateb holiaduron, nid ydynt yn hoff o ddarparu gwybodaeth bersonol, ac mae’n aml yn anghyfreithlon gofyn am wybodaeth bersonol. I ddatrys y problemau hyn, gallwch:

  • Gofnodi rhyw unigolyn heb ofyn iddo wyneb yn wyneb
  • Cofnodi oedran unigolyn drwy benderfynu i ba grŵp oedran mae’n perthyn. Er enghraifft:
    • O dan 16
    • 16-25
    • 25-40
    • 40-60
    • 60 a hŷn

Gan amlaf, bydd syniad bras o oedran unigolyn yn ddigonol.

  • Efallai hefyd y bydd yn anodd holi pobl am eu statws priodasol. Fodd bynnag, gallai fod yn iawn holi a ydynt yn ymweld ar eu pen eu hunain, neu sawl oedolyn a phlentyn sydd yn eu grŵp.
  • Nid oes angen gofyn am gyfeiriad person chwaith. Gellid gofyn iddo roi tri digid cyntaf ei god post (e.e. CF5 neu MK18).  Gall hyn roi syniad o ble maen nhw wedi dod. Fel arall, gellid holi tua pha mor bell maen nhw wedi teithio. Er enghraifft:
    • O dan 10 milltir
    • 10-25 milltir
    • 25-50 milltir
    • Dros 50 milltir

Gweithgaredd 2

Gan weithio mewn parau, cynlluniwch holiadur i’w ddefnyddio mewn maes parcio ar gyfer Parc Cenedlaethol neu Barc Gwledig. Gofynnwyd i chi gael gwybod o ble mae’r ymwelwyr wedi dod, am ba hyd maen nhw’n bwriadu aros yn y parc a sut y byddant yn defnyddio’r parc. Gofynnwch gwestiynau caeedig yn unig.

Gweithgaredd 3

Pan fyddwch wedi cwblhau’ch holiadur, dangoswch ef ar fwrdd gwyn ac eglurwch pam y dewisoch gynnwys y cwestiynau penodol hynny.

Efallai yr hoffech gymharu eich holiadur chi â’r un isod a thrafod y gwahaniaethau.                           

Gweithgaredd 4

Cymharwch yr holiadur uchod â’r un a gynllunioch chi. Beth yw ‘manteision ac anfanteision’ y ddau?

Arolwg Canfyddiad

Un dewis arall yn lle gofyn cwestiynau agored mewn holiadur yw cael barn pobl drwy arolwg canfyddiad. Yn syml, tabl yw hwn lle gofynnir i bobl a ydynt yn cytuno neu’n anghytuno â nifer o ddatganiadau.                                      

Dangosir isod enghraifft syml, y gellid ei defnyddio’n rhan o’r arolwg maes parcio. 

statement cym

Gan ddefnyddio’r dechneg hon, mae modd cael barn pobl heb orfod nodi atebion unigol.                            

Gallwch fireinio’r dechneg ymhellach drwy ychwanegu sgoriau at bob cwestiwn. Fel hyn, gallwch gael gwybod pa bethau mae pobl yn yr arolwg yn teimlo’n gryfach amdanynt. Dangosir enghraifft isod.

statement cym 02

Gweithgaredd 5

Cynlluniwch arolwg canfyddiad a rhyw 8 cwestiwn ynddo yn holi’ch cyd-ddisgyblion a myfyrwyr eraill am eu chwaeth mewn cerddoriaeth neu eu hoff chwaraeon.

Fel y gwelwch, mae mwy ynghlwm wrth gynllunio holiadur da nag y tybioch i ddechrau efallai.       

Mae’r diagram isod yn rhoi syniad o’r broses y dylid ei dilyn wrth gynllunio holiaduron.                  

Y Broses Cynllunio Holiadur

questionnaire-design-process.png