Llwyddo ym maes ‘Profiad y Cwsmer’

MPA 3.1 Cynllunio offer ymchwilio

Paratoi i gyfweld â rhywun

Un offeryn ymchwilio arall y gallech ystyried ei ddefnyddio yw cyfweliad. Efallai y byddwch chi, a rhai o’ch cyd-ddisgyblion efallai, yn cael y cyfle i gyfweld â rheolwr neu aelod o staff sy’n gweithio i’r sefydliad twristiaeth rydych chi’n ei astudio.                                                                  

Bydd yn bwysig paratoi ar gyfer y cyfweliad. Bydd hyn yn golygu gwneud nodiadau ac ychydig o waith ymchwil cefndir.   

Efallai y bydd rhywfaint o’r wybodaeth yn y darn isod yn ddefnyddiol.

Yn hytrach na chyfweld ag un person, gallech chi ac efallai eraill gyfweld â grŵp o bobl. Yr enw ar hwn yw grŵp ffocws.                 

Mae pedwar gwahanol fath o gwestiynau sylfaenol. 

  • Cwestiynau agored
  • Cwestiynau caeedig
  • Cwestiynau dilynol
  • Cwestiynau procio

Cwestiynau Agored

Mae’r rhain yn galluogi pobl i ateb mewn unrhyw ffordd a fynnant. Nid yw cwestiynau agored yn gorfodi atebion ar bobl. Maent yn caniatáu mynegiant. Felly, defnyddiwch gwestiynau agored yn aml ac yn helaeth mewn grwpiau ffocws a chyfweliadau trwyadl.                     

Mae cwestiynau agored yn dechrau sgyrsiau ac yn eu cadw i fynd.

Enghreifftiau o gwestiynau agored:

“Pan feddyliwch chi am y rhyngrwyd, beth yw’r peth cyntaf a ddaw i’ch meddwl?”

“Beth ydych chi’n ei hoffi orau am gynnyrch X?”

“Beth yw’r problemau mwyaf gyda brand X?”

Gall cwestiynau agored ddarganfod pynciau anhysbys a’u harchwilio. Gallant gynhyrchu atebion manwl, dwfn ac annisgwyl.

Cwestiynau Caeedig

Mewn gwrthgyferbyniad, mae cwestiynau caeedig yn gorfodi atebion ac yn cyfyngu ar gyfle’r sawl y cyfwelir ag ef i siarad yn faith.   

Mae cwestiynau caeedig yn galluogi ymchwiliwr i gyfrif atebion a chymhwyso technegau ystadegol.

Mae cwestiwn caeedig yn cyfyngu ar atebion neu’n eu culhau. Yn yr enghraifft hon, yr ateb yw naill ai ‘ydw’ neu ‘nac ydw’.

"A ydych chi’n defnyddio brand X?”

Cwestiynau Dilynol

Mae’r cwestiwn dilynol yn gofyn am fwy o wybodaeth am yr ateb i’r prif gwestiwn. Mae’n cael manylion ac yn ymhelaethu ar atebion. Yn aml, mae nifer o gwestiynau dilynol i un prif gwestiwn.

Er enghraifft,   

Prif gwestiwn: “Beth yw’r broblem fwyaf gyda brand X?”

Cwestiynau dilynol: “Pa mor sylweddol yw’r broblem?” “Beth sy’n achosi’r broblem?”

Rhagwelwch gwestiynau dilynol. Nodwch nhw yn eich canllaw cyfweld. Dyma rai syniadau am gwestiynau dilynol.       

"Beth mae hynny’n ei olygu?”

“Sut ddigwyddodd hynny?”

“Beth sy’n achosi’r broblem?”

“Beth wnaethoch chi?”

Cwestiwn Procio

Prif waith y cwestiwn procio, sy’n dilyn prif gwestiwn neu gwestiwn dilynol, yw cael eglurhad. Dyma ambell enghraifft o gwestiynau procio.     

“Dywedwch ragor wrthyf.”

“A wnewch chi roi enghraifft i mi?”

Heblaw’r cwestiynau procio a ofynnwch, gallwch hefyd ddefnyddio dulliau ymchwilio distaw.

  • Cadw’n ddistaw.
  • Nodio eich pen.
  • Defnyddio golwg ddryslyd ar eich wyneb.

Gweithgaredd

Ar ôl ystyried y pedwar math o gwestiwn y gellir ei ofyn, paratowch i gyfweld â rhywun! Gallai hwn fod yn berthynas, yn aelod uwch o staff yn eich ysgol neu ryw berson arall. Sicrhewch fod eich nodiadau a’ch ymchwil wedi’ch paratoi chi at y cyfweliad.