Ar ôl dadansoddi eich data, mae angen yn awr i chi ddweud beth mae’n ei olygu.
Gallwch wneud hyn ar gyfer:
- Y graffiau a’r tablau a ddadansoddwyd gennych
- Y canfyddiadau o gyfweliadau
- Gwybodaeth allweddol o ddata eilaidd yr ydych wedi’i roi yn eich log.
Gallai fod yn syniad gofyn i chi’ch hun rai o’r cwestiynau a wnaethoch ystyried wrth ddadansoddi eich data, sef:
- A oes unrhyw ganlyniadau arbennig o ddiddorol y gallwch eu dyfynnu?
- A ydy’r canlyniadau’n dangos bod agweddau ar brofiad y cwsmer yn y sefydliad sy’n eithriadol?
- A ydy’r canlyniadau’n dangos bod agweddau ar brofiad y cwsmer yn y sefydliad y mae angen eu gwella?
- A ydy’r graffiau’n dangos bod rhai grwpiau o gwsmeriaid yn cael gwell profiad nag eraill?
- A ydy’r rhan fwyaf o gwsmeriaid yn cael profiad da yn eich sefydliad dewisol?
- Pa agweddau ar y sefydliad y mae cwsmeriaid yn eu mwynhau fwyaf?