Llwyddo ym maes ‘Profiad y Cwsmer’

MPA 3.2, 3.3, 3.4

Dehongli data

Ar ôl dadansoddi eich data, mae angen yn awr i chi ddweud beth mae’n ei olygu.

Gallwch wneud hyn ar gyfer:

  • Y graffiau a’r tablau a ddadansoddwyd gennych
  • Y canfyddiadau o gyfweliadau
  • Gwybodaeth allweddol o ddata eilaidd yr ydych wedi’i roi yn eich log.

Gallai fod yn syniad gofyn i chi’ch hun rai o’r cwestiynau a wnaethoch ystyried wrth ddadansoddi eich data, sef:               

  • A oes unrhyw ganlyniadau arbennig o ddiddorol y gallwch eu dyfynnu?
  • A ydy’r canlyniadau’n dangos bod agweddau ar brofiad y cwsmer yn y sefydliad sy’n eithriadol?
  • A ydy’r canlyniadau’n dangos bod agweddau ar brofiad y cwsmer yn y sefydliad y mae angen eu gwella?           
  • A ydy’r graffiau’n dangos bod rhai grwpiau o gwsmeriaid yn cael gwell profiad nag eraill?
  • A ydy’r rhan fwyaf o gwsmeriaid yn cael profiad da yn eich sefydliad dewisol?
  • Pa agweddau ar y sefydliad y mae cwsmeriaid yn eu mwynhau fwyaf?

Dadansoddi a dehongli

Mae’n eithaf dealladwy y gall fod gorgyffwrdd rhwng dadansoddi a dehongli. Peidiwch â phoeni’n ormodol am hyn. Canolbwyntiwch ar yr hyn y mae’r data’n ei ddweud a’r hyn y mae’n ei olygu am ansawdd profiad y cwsmer yn eich sefydliad dewisol.            

Gallai’r geiriau a’r ymadroddion yn y blwch isod eich helpu wrth ysgrifennu eich gwybodaeth.

  • esbonio
  • egluro
  • cyfrif am
  • amlygu
  • taflu goleuni ar
  • dod i’r amlwg
  • cyfleu
  • disgrifio
  • arddangos
  • portreadu
  • deall
  • barn
  • addasu
  • sylw
  • llun
  • datgelu