Y trefnydd teithio
1. Mae’r mwyafrif o’n cwsmeriaid eisiau aros mewn gwestyau ble maen nhw’n gallu bwyta bwyd cyfarwydd ac yfed brandiau o gwrw a lager cyfarwydd. Rydw i’n gwybod nad yw ansawdd y bwyd yn flaenoriaeth i westyau, ond does neb yn cwyno. Rydym yn dueddol o gyflogi gweithwyr o’r DU am ei fod yn datrys y broblem iaith a does dim rhaid eu hyfforddi nhw.
Mae nosweithiau Sbaeneg a Fflamenco yn boblogaidd iawn. Dydw i ddim yn siŵr os yw’r holl ddawnswyr yn Sbaenaidd – ond nid hynny yw fy mhroblem i. Rydym yn derbyn comisiwn da gan fod y cwsmeriaid yn dueddol o yfed llawer.
2. Rydym yn gwneud yr hyn sy’n bosib er mwyn sicrhau bod ein cwsmeriaid â’r cyfle i brofi bwyd, diod a diwylliant yr ardal ble maen nhw’n aros. Mae’n ofynnol i westyau ddarparu bwydydd lleol a chynnig gwinoedd lleol. Rydym yn dueddol o ddewis gwestyau i’n cwsmeriaid ble mae cyfanswm sylweddol o’r gweithwyr yn dod o’r gymuned leol.
Mae ein pecynnau gwibdeithiau yn dueddol o gynnwys atyniadau diwylliannol lleol a henebion hanesyddol. Rydym yn defnyddio tywyswyr lleol, sy’n darparu’r cwsmeriaid â gwybodaeth am y rhanbarth sy’n hynod o ddiddorol.