Busnes Twristiaeth

MPA 1.2 Esboniwch amcanion sefydliadau twristiaeth

Amcanion Cymdeithasol

Mae sefydliadau twristiaeth yn gosod amcanion cymdeithasol er mwyn dangos eu bod yn gyflogwyr da, neu i ddatblygu perthynas dda gyda’r gymuned ble maen nhw’n gwasanaethu. Lles gweithwyr a bod yn gymydog da yw canolbwynt amcanion cymdeithasol, yn hytrach na gwneud elw.

Ar yr un pryd, mae ymwybyddiaeth sefydliadau twristiaeth o fasnachu moesegol yn cynyddu. Er enghraifft, a ddylai parc thema werthu eitemau o ddillad o wledydd y Trydydd Byd sydd wedi eu creu gan ddefnyddio llafur plant neu mewn ffatri gweithdy cyflog isel? Ddylai gwesty ddarparu bwyd fel cyw iâr a gynhyrchwyd gan ffermio gorddwys? Ddylai trefnwyr teithio gynnig gwibdeithiau sy’n arwain at bobl leol yn cael eu hecsbloetio?

Gweithgaredd 1

Ystyriwch wahanol safbwyntiau cynrychiolwyr sefydliadau twristiaeth sydd i’w gweld isod. Trefnwch drafodaeth neu ddadl gyda’ch cyfoedion am y gwahanol safbwyntiau.

Perchennog yr atyniad

1. Mae’n rhaid i mi wneud cymaint o elw ag sy’n bosib. Rydw i yn prynu crysau T rhad dramor ac yn printio ein logo ni arnynt. Maen nhw’n gwerthu’n dda, a dydw i ddim yn poeni ble cafodd y crysau eu gwneud. Rydw i’n gwybod bod ychydig o’r cofroddion yn ddi-chwaeth, ond rydym yn gwneud elw da arnynt.

Rydym yn cyflogi asiantaeth i wneud y gwaith glanhau dros nos. Dydw i ddim yn poeni o ble maen nhw’n derbyn eu gweithwyr. Maen nhw’n rhad ac mae eu gwaith o safon. Mae’n rhatach na chyflogi glanhawyr.

 

2. Mae’n rhaid i mi wneud cymaint o elw ag sy’n bosib. Rydw i yn prynu crysau T rhad dramor ac yn printio ein logo ni arnynt. Maen nhw’n gwerthu’n dda, a dydw i ddim yn poeni ble cafodd y crysau eu gwneud. Rydw i’n gwybod bod ychydig o’r cofroddion yn ddi-chwaeth, ond rydym yn gwneud elw da arnynt.

Rydym yn cyflogi asiantaeth i wneud y gwaith glanhau dros nos. Dydw i ddim yn poeni o ble maen nhw’n derbyn eu gweithwyr. Maen nhw’n rhad ac mae eu gwaith o safon. Mae’n rhatach na chyflogi glanhawyr.

Rheolwr y gwesty

Rydym yn gwneud ein gorau i sicrhau bod bwyd y gwesty yn dod o gynhyrchwyr lleol pan yn bosib. Rydym yn hysbysu ein hymwelwyr a chwsmeriaid am y ffermydd ble mae cig a chynhyrchion eraill a ddefnyddir yn y gwesty yn dod ohono.

Mae gennym hefyd siop goffi, yn cael ei rhedeg gan ein gweithwyr ni. Rydym yn sicrhau bod y coffi a’r te yn rhai ‘masnach deg' ac rydym yn cynnig cacennau a gynhyrchwyd gan bobydd annibynnol lleol.

 

Y trefnydd teithio

1. Mae’r mwyafrif o’n cwsmeriaid eisiau aros mewn gwestyau ble maen nhw’n gallu bwyta bwyd cyfarwydd ac yfed brandiau o gwrw a lager cyfarwydd. Rydw i’n gwybod nad yw ansawdd y bwyd yn flaenoriaeth i westyau, ond does neb yn cwyno. Rydym yn dueddol o gyflogi gweithwyr o’r DU am ei fod yn datrys y broblem iaith a does dim rhaid eu hyfforddi nhw.

Mae nosweithiau Sbaeneg a Fflamenco yn boblogaidd iawn. Dydw i ddim yn siŵr os yw’r holl ddawnswyr yn Sbaenaidd – ond nid hynny yw fy mhroblem i. Rydym yn derbyn comisiwn da gan fod y cwsmeriaid yn dueddol o yfed llawer.

 

2. Rydym yn gwneud yr hyn sy’n bosib er mwyn sicrhau bod ein cwsmeriaid â’r cyfle i brofi bwyd, diod a diwylliant yr ardal ble maen nhw’n aros. Mae’n ofynnol i westyau ddarparu bwydydd lleol a chynnig gwinoedd lleol. Rydym yn dueddol o ddewis gwestyau i’n cwsmeriaid ble mae cyfanswm sylweddol o’r gweithwyr yn dod o’r gymuned leol.

Mae ein pecynnau gwibdeithiau yn dueddol o gynnwys atyniadau diwylliannol lleol a henebion hanesyddol. Rydym yn defnyddio tywyswyr lleol, sy’n darparu’r cwsmeriaid â gwybodaeth am y rhanbarth sy’n hynod o ddiddorol.

Gweithgaredd 2

O fod wedi trafod neu ddadlau’r datganiadau uchod, ysgrifennwch draethawd byr o’r enw ‘Materion Moesegol ar gyfer Sefydliadau Twristiaeth’.

Gweithgaredd 3

Mae yna restr o eitemau y gall parciau thema eu gosod fel amcanion cymdeithasol yn y tabl isod. Darllenwch drwy’r rhestr a thiciwch 5 amcan yr ydych chi’n ystyried sydd bwysicaf. Trafodwch eich dewisiadau gyda’ch cyfoedion.

  • Ein hamcan dros y flwyddyn nesaf yw sicrhau bod ein holl weithwyr yn cael eu talu 50c yr awr yn fwy na’r isafswm cyflog.
  • Ein hamcan dros y flwyddyn nesaf yw darparu ein holl weithwyr parhaol gyda 5 diwrnod o hyfforddiant.
  • Ein hamcan dros y flwyddyn nesaf yw cyflogi 5 gweithiwr newydd gydag anghenion arbennig neu ychwanegol.
  • Ein hamcan dros y flwyddyn nesaf yw sicrhau bod aelodau teulu ein gweithwyr parhaol yn derbyn tocyn blynyddol am ddim.
  • Ein hamcan dros y flwyddyn nesaf yw sicrhau bod o leiaf 50% o’r bwyd sy’n cael ei werthu ar ein safle yn cael ei gynhyrchu yn yr ardal leol.
  • Ein hamcan dros y flwyddyn nesaf yw sicrhau na fydd unrhyw sŵn yn dod o’r parc ar ôl 11 yr hwyr.
  • Ein hamcan dros y flwyddyn nesaf yw sicrhau bod yr holl gofroddion yn cael eu cynhyrchu yn foesegol, a ddim yn cyflogi llafur plant.
  • Ein hamcan dros y flwyddyn nesaf yw sicrhau bod pob ymgeisydd o’r ardal leol yn cael eu gwahodd am gyfweliad.
  • Ein hamcan dros y flwyddyn nesaf yw cyflogi o leiaf 10 ymgeisydd o’r ardal leol.
  • Ein hamcan dros y flwyddyn nesaf yw sicrhau bod pob gweithiwr sy’n gweithio ar ôl 9 yh yn derbyn trafnidiaeth am ddim i’w gartref.
  • Ein hamcan dros y flwyddyn nesaf yw sicrhau bod ein holl weithwyr parhaol yn derbyn gofal meddygol preifat am ddim.
  • Ein hamcan dros y flwyddyn nesaf yw darparu ein holl weithwyr gyda chyfleuster ffreutur, gyda phrydau o fwyd yn rhatach.

Gweithgaredd 4

Eglurwch sut wnaethoch chi benderfynu ar eich 5 dewis.