Amcanion sefydliadau twristiaeth
Mae’n rhaid i sefydliadau twristiaeth, fel pob busnes, gynllunio ar gyfer y dyfodol. Mae’n rhaid i berchenogion a rheolwyr busnesau twristiaeth benderfynu sut bydden nhw’n dymuno gweld eu busnes yn datblygu a llwyddo.
Mae busnesau mwy o faint yn dueddol o ddatblygu’r hyn sy’n cael ei adnabod fel ‘datganiad o fwriad’, sy’n amlinellu syniadau cyffredinol am amcanion y busnes mewn ambell i frawddeg. Er enghraifft, gall datganiad o fwriad atyniad fod rhywbeth yn debyg i: Rydym yn ceisio sicrhau bod ein cwsmeriaid yn cael diwrnod gwych ac yn mwynhau eu hunain.
Mae busnesau yn aml yn datblygu amcanion o’r datganiad i fwriad, sy’n berthnasol i’r datganid i fwriad. Gall amcan fod: I fod yr atyniad gorau yn yr ardal ar gyfer diwrnod allan i deuluoedd.
Mae amcanion yn fwy penodol ac yn dargedau mesuradwy ble mae’r busnes yn gallu gweithio tuag atyn nhw er mwyn cyflawni eu hamcanion. Er enghraifft: Rydym eisiau creu elw o £500,000 yr adeg yma flwyddyn nesaf, neu rydym eisiau datblygu dwy reid newydd a fydd yn annog cwsmeriaid i ddychwelyd i’r atyniad.
Mae’r adran yma yn eich cynorthwyo i ddeall pam fod busnesau twristiaeth yn gosod amcanion, a’r mathau o amcanion allai gael eu gosod. Cofiwch – mewn rhai blynyddoedd, gallwch chi fod yn rhan o gyfarfod sy’n penderfynu ar nodau ac amcanion y busnes twristiaeth rydych yn gweithio iddo!