Fel y soniwyd yn yr adnodd blaenorol, mae angen i rai sefydliadau twristiaeth mwy o faint wneud penderfyniadau sy’n cynnwys cyfansymiau helaeth o arian. Gall reid newydd mewn parc thema gostio miliynau o bunnoedd, a byddai adeiladu gwesty newydd yn costio rhwng deg ac ugain miliwn o bunnoedd. Mae awyren jet fodern, fawr yn gallu costio degau o filiynau o bunnoedd.
Mae uwch swyddogion mewn sefydliadau twristiaeth yn gorfod gwneud penderfyniadau mawr am ba ddulliau byddai’n cael eu defnyddio er mwyn ceisio cyflawni’r amcanion a osodwyd gan y sefydliad, er mwyn gwneud elw o fuddsoddiadau sawl miliwn o bunnoedd.
Yr eitemau drutaf sy’n cael eu prynu gan sefydliadau twristiaeth yw llongau mordeithio, nid awyrennau.
Darllenwch y darn isod o gylchgrawn Americanaidd:
Mae’r gost o adeiladau llong fordeithio yn dibynnu ar faint y llong, yr iard longau (costau llafur, trethi, ansawdd y gwasanaeth) a'r nodweddion ar y llong (cyfleusterau a mwynderau).
Dyma rai atebion diddorol i rai o’r cwestiynau sy’n cael eu gofyn yn gyson am gostau llong fordeithio:
- Beth yw cost llong fordeithio ddrutaf y byd? Costiodd llong The Royal Caribbean, Oasis of the Seas UDA$1.4 biliwn i’w hadeiladu. Mae llong debyg gan Royal Caribbean, yr Allure wedi costio $1.2 biliwn.
- Faint o arian fyddai llong fordeithio’r Royal Caribbean yn costio heddiw? Y rhataf yw llongau Royal Caribbean dosbarth Sovereign, sef Monarch a Majesty (UDA$150 miliwn yr un).
- Faint o arian mae llong fordeithio Carnival yn costio? Y llongau cynharaf yn y fflyd Carnival yw’r Fantasy-class, sef oddeutu UDA$250 miliwn yr un. Mae llong ddiweddaraf Carnival, sef Dream-class yn costio tua UDA$740 miliwn yr un.
- Faint o arian mae llong fordaith Disney yn costio? Mae’r llongau diweddaraf Disney, sef Dream a Fantasy yn costio UDA$900 a UDA$940 miliwn. Roedd yr ‘hen’ Magic a Wonder yn costio UDA$350 miliwn yr un.