Fel y soniwyd yn yr adnodd blaenorol, mae angen i rai sefydliadau twristiaeth mwy o faint wneud penderfyniadau sy’n cynnwys cyfansymiau helaeth o arian. Gall reid newydd mewn parc thema gostio miliynau o bunnoedd, a byddai adeiladu gwesty newydd yn costio rhwng deg ac ugain miliwn o bunnoedd. Mae awyren jet fodern, fawr yn gallu costio degau o filiynau o bunnoedd.
Mae uwch swyddogion mewn sefydliadau twristiaeth yn gorfod gwneud penderfyniadau mawr am ba ddulliau byddai’n cael eu defnyddio er mwyn ceisio cyflawni’r amcanion a osodwyd gan y sefydliad, er mwyn gwneud elw o fuddsoddiadau sawl miliwn o bunnoedd.
Yr eitemau drutaf sy’n cael eu prynu gan sefydliadau twristiaeth yw llongau mordeithio, nid awyrennau.
Darllenwch y darn isod o gylchgrawn Americanaidd:
Mae’r gost o adeiladau llong fordeithio yn dibynnu ar faint y llong, yr iard longau (costau llafur, trethi, ansawdd y gwasanaeth) a'r nodweddion ar y llong (cyfleusterau a mwynderau).
Dyma rai atebion diddorol i rai o’r cwestiynau sy’n cael eu gofyn yn gyson am gostau llong fordeithio:
- Beth yw cost llong fordeithio ddrutaf y byd? Costiodd llong The Royal Caribbean, Oasis of the Seas UDA$1.4 biliwn i’w hadeiladu. Mae llong debyg gan Royal Caribbean, yr Allure wedi costio $1.2 biliwn.
- Faint o arian fyddai llong fordeithio’r Royal Caribbean yn costio heddiw? Y rhataf yw llongau Royal Caribbean dosbarth Sovereign, sef Monarch a Majesty (UDA$150 miliwn yr un).
- Faint o arian mae llong fordeithio Carnival yn costio? Y llongau cynharaf yn y fflyd Carnival yw’r Fantasy-class, sef oddeutu UDA$250 miliwn yr un. Mae llong ddiweddaraf Carnival, sef Dream-class yn costio tua UDA$740 miliwn yr un.
- Faint o arian mae llong fordaith Disney yn costio? Mae’r llongau diweddaraf Disney, sef Dream a Fantasy yn costio UDA$900 a UDA$940 miliwn. Roedd yr ‘hen’ Magic a Wonder yn costio UDA$350 miliwn yr un.
Gweithgaredd 1
Mae’r prisiau mewn glas mewn Doleri Americanaidd. Defnyddiwch drawsnewidydd arian ar-lein er mwyn cyfrifo costau’r llong mewn punnoedd Prydeinig.
Defnyddiwch Google i ddod o hyn i ddelweddau o rai o’r llongau y sonnir amdanynt.
Gweithgaredd 2
Ymchwiliwch i wybodaeth sy’n berthnasol ar gyfer datblygiadau twristiaeth mawr yn eich ardal, neu archwiliwch gostau’r reidiau newydd sydd wedi’u hagor mewn parciau thema mawr. Gallwch chi hefyd ymchwilio’r gost ar gyfer parc thema newydd sydd i fod i gael ei adeiladau yn Swansombe, Caint.
Cynnwys y gellir ei lawrlwytho
- Word (.docx): U2-1.3-Adnodd2.docx