Busnes Twristiaeth

MPA 1.3 Canllaw i ganolfannau

Gêm amcanion

Dylech chi nawr fod â dealltwriaeth o’r gwahanol amcanion sy’n gallu cael eu gosod gan sefydliadau twristiaeth, a’r dulliau sy’n cael eu defnyddio i’w cyflawni. Cofiwch – nid yw hi’n  bosib cyflawni’r holl amcanion a osodwyd bob amser.

Senario

Mae Mike a Rita wedi ffurfio partneriaeth er mwyn agor atyniad fferm ble mae ymwelwyr yn cael y cyfle i weld bwydydd yn cael eu cynhyrchu o gnydau sydd wedi’u tyfu ar y fferm. Enw’r atyniad yw Fferm Polly. Bydd plant yn cael eu diddanu gyda reidiau bach a theithiau o gwmpas y caeau ar dractor neu drelar. Mae Mike a Rita wedi gosod amcanion ar gyfer tair blynedd gyntaf gweithrediad y fferm, sy’n cynnwys:

  • Dibynnu ar egni adnewyddadwy
  • Defnyddio gweithwyr lleol
  • Gwneud 15% o elw
  • Agor ail fferm mewn gwahanol ran o’r wlad.

Mae Mike a Rita yn cynnal cyfarfod bob tri mis i adolygu eu gwaith a’r tebygolrwydd y byddan nhw’n cyrraedd eu hamcanion. Felly, bydd 12 cyfarfod yn cael eu cynnal dros gyfnod o dair blynedd.