Mae sefydliadau twristiaeth yn gallu defnyddio amrywiaeth o ddulliau er mwyn eu helpu i gyflawni’r amcanion sydd wedi’u gosod. Mae modd dweud mai marchnata yw’r dull pwysicaf, gyda thechnolegau newydd yn dilyn yn agos.
Mae dulliau eraill sy’n cael eu defnyddio gan sefydliadau twristiaeth i gyflawni eu hamcanion yn cynnwys:
Arallgyfeirio – sy’n cynnwys datblygu cynhyrchion newydd ar gyfer marchnadoedd newydd neu grwpiau newydd o gwsmeriaid.
Hyfforddi gweithwyr – er mwyn sicrhau bod pob aelod o staff gyda’r wybodaeth ddiweddaraf a’r sgiliau er mwyn gwneud eu swyddi yn effeithiol.
Gwella cyfleusterau – er mwyn sicrhau bod adeiladau’r sefydliad yn fodern ac yn gyfforddus.
Ehangu – tyfu’r busnes er mwyn atynnu mwy o gwsmeriaid.
Cynnwys y gellir ei lawrlwytho
- Word (.docx): U2-1.3-Adnodd6.docx