Mae nodweddion sylfaenol marchnata wedi’u gosod isod. Astudiwch yr wybdoaeth yn ofalus.
- Marchnata yw’r broses ble mae sefydliadau yn sicrhau bod cwsmeriaid yn derbyn y cynhyrchion cywir am brisiau fforddiadwy.
- Mae marchnata’n cynnwys datblygu cynhyrchion newydd ac ymateb i dueddiadau a thechnolegau newydd.
- Mae marchnata’n cynnwys deall y farchnad, gan gynnwys beth mae cystadleuwyr yn eu gwneud.
- Mae marchnata’n cynnwys amrywiaeth o weithgareddau i hyrwyddo cynhyrchion y sefydliad i gwsmeriaid.
- Mae ymchwil marchnata’n ymwneud â darganfod anghenion cwsmeriaid, a’r cynhyrchion maen nhw’n barod i’w prynu, gan ddefnyddio holiaduron a dulliau eraill.
- Marchnata targed yw hyrwyddo cynhyrchion penodol i grŵp penodol o gwsmeriaid. Mae'r rhain yn cael eu hadnabod fel segmentau o’r farchnad.
- Yn aml, mae marchnad yn cael ei rhannu, neu ei segmentu gan oed, rhyw, grŵp cymdeithasol, ffordd o fyw neu ethnigrwydd.
- Mae’r cymysgedd marchnata yn ffordd o dorri lawr y broses farchnata i bedair rhan allweddol, sef: cynnyrch, lle, pris a hyrwyddo. Felly, mae marchnata llwyddiannus yn cynnwys: darparu cynnyrch mae’r cwsmer eisiau, sicrhau bod y cwsmer yn gwybod ble i brynu’r cynnyrch, gosod pris addas a hyrwyddo’r cynnyrch yn effeithiol.
- Gall y cynnyrch fod yn rhywbeth ffisegol, fel pryd o fwyd, gwisg chwaraeon neu rywbeth sy’n anghyffyrddadwy (ddim yn gallu ei gyffwrdd) fel gwyliau neu daith awyren. Mewn geiriau eraill, gall cynnyrch fod yn brofiad.
- Mae nodweddion y cynnyrch yn cyfeirio at bethau sy’n gwneud y cynnyrch yn adnabyddadwy i gwsmeriaid. Er enghraifft, mae nodweddion cynnyrch pecyn gwyliau yn cynnwys taith hedfan ac arhosiad mewn gwesty gyda chyfleusterau bwyd, diod a hamdden.
- Mae enw’r brand yn helpu cwsmeriaid i adnabod y cynnyrch a’i nodweddion; nid enw’r brand yw enw’r sefydliad yn unig. Mae enghreifftiau yn cynnwys: Alton Towers, Madame Tussauds, Legoland ac easyjet.
- Mae nifer o sefydliadau yn cyfuno enw eu brand gyda logo, sy’n symbol sy’n helpu cwsmeriaid i adnabod sefydliad penodol.
Y cymysgedd cynnyrch yw’r amrywiaeth o gynhyrchion sy’n cael eu cynnig gan yr un sefydliad. Er enghraifft, mae trefnydd teithiau mawr, fel Thomas Cook, yn cynnig gwyliau hollgynhwysol, gwyliau hunanarlwyo a theithiau bysiau moethus, a.y.b.
Mae pris yn bwysig gan fod sefydliadau twristiaeth eisiau gallu gwerthu eu cynhyrchion er mwyn creu elw. Fodd bynnag, gall pris cynnyrch newid yn ôl nifer o ffactorau. Mae sefydliadau twristiaeth yn defnyddio strategaethau fel pris brig ac allfrig, disgowntiau arbennig ac i grwpiau, cynigion arbennig a chynlluniau ffyddlondeb, yn ogystal â dulliau eraill er mwyn sicrhau bod cwsmeriaid â diddordeb yn prynu’r cynnyrch. - Mae lle yn gweithio’n wahanol mewn twristiaeth i’r ffordd mae’n gweithio mewn diwydiannau eraill. Gall fod cannoedd o siopau Lidl neu siopau John Lewis ar draws y wlad, ond mae Parc Thorpe mewn un lle yn unig! Felly, mae’n hanfodol bod cwsmeriaid yn gwybod am leoliad y sefydliad, sut i fynd yno, ble i barcio, y gost o fynd yno, a.y.b.
- Mae hyrwyddo yn cynnwys cyfarwyddo cwsmeriaid am gynhyrchion y sefydliad, ac yn eu perswadio i brynu'r cynhyrchion. Mae’n bwysig deall y gwahaniaeth rhwng technegau hyrwyddo a deunyddiau hyrwyddo.
- Technegau hyrwyddo yw dulliau sy’n cael eu defnyddio i hyrwyddo cynhyrchion, ac yn cynnwys: hysbysebu, marchnata uniongyrchol (i bobl penodol), nawdd, arddangosfeydd, sioeau masnach a hyrwyddo gwerthiannau.
- Deunyddiau hyrwyddo yw’r cyfrwng ble mae cynhyrchion yn cael eu hyrwyddo, fel arfer drwy hysbysebu. Mae’r dewis o gyfryngau yn cynnwys hysbysebu radio a theledu, papurau newydd a chylchgronau, ac yn fwy aml erbyn hyn – y rhyngrwyd. Mae sefydliadau hefyd yn cynhyrchu llyfryn a phamffledi er mwyn hyrwyddo eu cynhyrchion.
- Defnyddir dulliau hyrwyddo gwerthiant yn eang gan sefydliadau twristiaeth. Mae hyrwyddiadau gwerthiant yn weithgareddau marchnata byrdymor sydd wedi’u dylunio i annog diddordeb mewn cynnyrch, efallai ar amserau allfrig, er enghraifft. Gall hyrwyddiadau gwerthiant gynnwys: anrhegion am ddim, arian oddi ar docynnau, codau disgownt, gostyngiadau mewn prisiau a chynlluniau ffyddlondeb.
- Erbyn hyn, mae gwefannau wedi datblygu yn un o’r prif ddulliau sy’n cael eu defnyddio gan sefydliadau twristiaeth i hyrwyddo eu cynhyrchion. Mae modd adeiladu gwefannau i’w gwneud yn ddeniadol, i ddarparu’r holl wybodaeth sydd ei angen ar gwsmeriaid, gellir eu diweddaru’n rhwydd, ac mae’r mwyafrif o wefannau yn darparu cyfle i brynu’r cynnyrch ar-lein.
Gweithgaredd 1
Darllenwch drwy'r nodiadau ar y tudalennau blaenorol yn ofalus, a dysgwch nhw ar eich cof.
Ar ôl i chi wneud hyn, atebwch y cwestiynau isod, heb edrych ar y nodiadau!
Gweithgaredd 2
Ar ôl ateb y cwestiynau, eglurwch beth sydd ynghlwm â marchnata mewn 100 gair!
Cynnwys y gellir ei lawrlwytho
- Word (.docx): U2-1.3-Adnodd3.docx