Llwyddo ym maes ‘Profiad y Cwsmer’

MPA 2.3 Eglurwch effeithiau gwasanaeth cwsmeriaid ar sefydliadau twristiaeth

Mynd cam ymhellach

Ar ôl cwblhau ymarfer ‘pa mor dda/gwael’ a thrafod eich atebion gydag eraill, ystyriwch y canlynol.                                      

Beth fyddech chi’n ei wneud petaech chi’n rheolwr:

  • y cyfleuster lle cwynodd y cwsmer am y toiledau ofnadwy        
  • y gwesty lle’r oedd y derbynnydd yn ddigywilydd
  • y parc hamdden lle’r oedd gweithredwr y reid yn gymwynasgar
  • y ganolfan weithgareddau lle rhoddwyd hyfforddiant ardderchog gan y staff yn y gweithgaredd abseilio.

Gweithgaredd 1

Ar gyfer pob un o’r sefyllfaoedd uchod, awgrymwch sut allai rheolwr ymateb.

Gweithgaredd 2

Roedd y fenyw a gwynodd am ddaeargelloedd llaith a llithrig yn ymweld â chastell hen iawn.  Roedd hysbysiadau yn rhybuddio ymwelwyr am yr amodau yn y ddaeargell.

Ysgrifennwch lythyr i’r cwsmer yn ymateb i’r gŵyn.